B03487:764
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ni whyrach hefyd i ray a fo grasol ammeu gwirionedd eu gofid am bechod, am na byddant in tywallt cymaint o ddagrau am eu pechodau a rhai eraill.
Ni whyrach hefyd i rai a fo grasol ammeu gwirionedd eu gofid am bechod, am na byddant yn tywallt cymaint o ddagrau am eu pechodau a rhai eraill.
Bydded ir cyfryw ystyried nad yw dagrau reol siccr i fesur edifeirwch wrthi ym mhob dŷn. O herwydd y gall fod gwir ofid mewn rhyw ddŷn, er nas gallo dywallt dagrau. ⟨p. 158⟩Gall y gallon waedu, pan fo'r llygad in sych. Ac oddiwrth ryw ddŷn arall y gall lawyer o ddagrau ddiferu, pan na bo 'r gallon wedi ei harcholli in ddigon dwsn.
Bydded ir cyfryw ystyried nad yw dagrau reol siccr i fesur edifeirwch wrthi ym mhob dŷn. O herwydd y gall fod gwir ofid mewn rhyw ddŷn, er nas gallo dywallt dagrau. ⟨p. 158⟩Gall y galon waedu, pan fo'r llygad yn sych. Ac oddiwrth ryw ddŷn arall y gall llawer o ddagrau ddiferu, pan na bo 'r galon wedi ei harcholli yn ddigon dwsn.
Y mae cyrph rhai o dimer cyn syched nad yw hawdd iddynt hwy wŷlo am dd•m a ddigwyddo iddynt, ac nid yw ryfeddod fod y cyfryw heb wylo cymaint ag eraill am eu pechodau chwaith.
Y mae cyrph rhai o dymer cyn syched nad yw hawdd iddynt hwy wŷlo am dd•m a ddigwyddo iddynt, ac nid yw ryfeddod fod y cyfryw heb wylo cymaint ag eraill am eu pechodau chwaith.