B03487:940
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
6. Gellir gwneuthur defnydd da o'n bedydd in erbyn amryw brofedigaethau Satan. Pan fyddo efe in ceisio gennym ni anobeithio o ran lliaws ac erchylldra ein pechodau, gallwn argumennu oddiwrth ein bedydd, in yr hwn yr addawodd ac y seliodd yr Arglwydd ini faddevant o'n pechodau er mwyn haeddiant gwaed Christ.
6. Gellir gwneuthur defnydd da o'n bedydd yn erbyn amryw brofedigaethau Satan. Pan fyddo efe yn ceisio gennym ni anobeithio o ran lliaws ac erchylldra ein pechodau, gallwn argumennu oddiwrth ein bedydd, yn yr hwn yr addawodd ac y seliodd yr Arglwydd ini faddeuant o'n pechodau er mwyn haeddiant gwaed Christ.
Felly hefyd pan in temptier i wneuthur rhyw bechod, cofiwn yr adduned a wnaethom i Dduw in ein bedydd, in yr hwn yr addawsom fod in weision ffyddlon i Grist, ac ymladd dan ei faner ef in erbyn y cythrael a'r bŷd a'r cnawd: a hynny drwy fendith Duw a ddichon ein cadw ni rhag ymroi i brofedigaethau. Y mae Luther in son am forwyn a fai arferol o wrthsefyil profedigaethau â'r rheswm hwn, Fe am bedyddiwyd i, a chwedi fyngolchi yngwaed Christ, a ddychwelafi i frynti pechod, ac i dom oflendid? Yr un môdd dyweded pob un o honom ni pan y ceisier ein llithio i ryw bechod, yr ydwyfi wedi fy medyddio, ac wrth bynny dan rwymedigaeth ⟨p. 190⟩i ymwrthod a diafol ac a'i holl weithredoedd ef, ac o herwydd hynny ni wasanaetha imi na meddwi, na thyngu, na thorri 'r Sabbath: Ni wasanaetha i mi wneuthur yr anwiredd mawr hwn, a phechu in erbyn Duw, ir hwn y cyssegrais i fy hun in fy medydd. Fell hyn y gallwn ni wneuthur defnydd llesol o'n bedydd lawyer môdd, ac ar lawyer o achosion.
Felly hefyd pan in temptier i wneuthur rhyw bechod, cofiwn yr adduned a wnaethom i Dduw yn ein bedydd, yn yr hwn yr addawsom fod yn weision ffyddlon i Grist, ac ymladd dan ei faner ef yn erbyn y cythrael a'r bŷd a'r cnawd: a hynny drwy fendith Duw a ddichon ein cadw ni rhag ymroi i brofedigaethau. Y mae Luther yn son am forwyn a fai arferol o wrthsefyil profedigaethau â'r rheswm hwn, Fe am bedyddiwyd i, a chwedi fyngolchi yngwaed Christ, a ddychwelafi i frynti pechod, ac i dom oflendid? Yr un môdd dyweded pob vn o honom ni pan y ceisier ein llithio i ryw bechod, yr ydwyfi wedi fy medyddio, ac wrth bynny dan rwymedigaeth