Gof. 48. Nwy yw y rhai a ddylid eu bedyddio?
pp. 184–19034 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gof. 48. Nwy yw y rhai a ddylid eu bedyddio?
Atteb. Dylid fedyddio y rhai a dybier mewn cariad eu bod o fewn y cyfammod.
Eglurh. Gan fod bedydd in sêl o gyfammod ⟨p. 185⟩Duw, y mae pob un, ac sydd iddo hawl ir nail, a chanddo hawl ir llall. Am hynny ni wasanaetha gweinyddu 'r bedydd i neb ac sydd ddieithrol i gysammod y grâs, megis y mae pawb ac sydd allan o'r eglwys weledig, nes iddynt broffessu eu ffydd in-Ghrist.
Eglurh. Gan fod bedydd yn sêl o gyfammod ⟨p. 185⟩Duw, y mae pob vn, ac sydd iddo hawl ir naill, a chanddo hawl ir llall. Am hynny ni wasanaetha gweinyddu 'r bedydd i neb ac sydd ddieithrol i gysammod y grâs, megis y mae pawb ac sydd allan o'r eglwys weledig, nes iddynt broffessu eu ffydd yn-Ghrist.
Am hynny nid yw bedydd iw roddi i neb onid ir sawl a broffessant ffydd Grist, ac iw plant hwy.
Y mae hyn in wirionedd llesol, er bod rhai in ei ammau. Canys rhoddwyd gorchymyn ir Apostolion i fedyddio cenhedloedd, ac arferent hwy fedyddio teuluoedd cyfain. Ac nid oedd un genedl na nemawr o deuluoedd chwaith heb blant ynddynt. Ac heb law hyn y mae amryw resymau yscrythyrol a ddylaem ni eu ystyried ynghylch y peth hwn.