B03487:972
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y mae 'r Bobi in bwytta 'r Bara ac in yfed y Gwîn, ac wrth hynny in dangos eu cydsynniad i dderbyn Christ drwy ffydd, megis y tywalltodd efe ei waed in aberth drosdynt. Drwy ffydd y derbynir yr hyn a arwyddoceir i borthi 'r enaid, cyn wired ac y derbynir yr arwyddion iborthi 'r corph.
Y mae 'r Bobi yn bwytta 'r Bara ac yn yfed y Gwîn, ac wrth hynny yn dangos eu cydsynniad i dderbyn Christ drwy ffydd, megis y tywalltodd efe ei waed yn aberth drosdynt. Drwy ffydd y derbynir yr hyn a arwyddoceir i borthi 'r enaid, cyn wired ac y derbynir yr arwyddion iborthi 'r corph.
In bummed, gosodir allan y mod yr ydym ⟨p. 195⟩in gyfrannogion o Gorph a Gwaed Christ, self drwy ymborthi arno ef drwy ffydd. Pan fo'm ni in cymmwyso Christ a'i drugareddau oll igysur ein eneidiau yr ydym in ymborthi arno. Gallwn ein siccrhau ein hunain y cyfrifir ni in gyfiawn ger bron Duw drwy ei gyfiawnder ef, ac ini gael ein gwaredu oddiwrth farwolaeth dragywyddol drwy ei farwolaeth ef: Iddo ddwyn ein pechodau ni in ei gorph ar y pren, ac offrwm ei fywyd in aberth ddigonol, ac in jawn cyflawn i gyfiawnder Duw dross ein pechodau ni.
Yn bummed, gosodir allan y modd yr ydym ⟨p. 195⟩yn gyfrannogion o Gorph a Gwaed Christ, sef drwy ymborthi arno ef drwy ffydd. Pan fo'm ni yn cymmwyso Christ a'i drugareddau oll igysur ein eneidiau yr ydym yn ymborthi arno. Gallwn ein siccrhau ein hunain y cyfrifir ni yn gyfiawn ger bron Duw drwy ei gyfiawnder ef, ac ini gael ein gwaredu oddiwrth farwolaeth dragywyddol drwy ei farwolaeth ef: Iddo ddwyn ein pechodau ni yn ei gorph ar y pren, ac offrwm ei fywyd yn aberth ddigonol, ac yn iawn cyflawn i gyfiawnder Duw dros ein pechodau ni.