B03487:985
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Atteb, Y mae hyn in gosod y nail bechod i escusodi 'r llall. Megis, y mae in bechod iti esceuluso bod in gyfrannog oswpper yr Arglwydd, felly y mae in bechod arall iti na baech mewn mesur wedi dy gymmwyso a'th baratoi iddo. Rhaid iti ddyfod in gymmwys ac onid ê ti a ddevi in anheilwng; and edrych na byddech in peidio â ⟨p. 198⟩dyfod, rhag gorfod o honot fined ir boen i ymbaratoi, neu ymrwymo i arwain y faith fuchedd sanctaidd ac a ddylit wedi ei dderbyn. Y rhai fydd in dysod in ammharod sydd in halogi 'r ordinhad hwn, a'r rhai sydd in esceuluso ymbaratoi sydd in gwneuthur cyfrif bychan o honaw.
Atteb, Y mae hyn yn gosod y naill bechod i escusodi 'r llall. Megis, y mae yn bechod iti esceuluso bod yn gyfrannog oswpper yr Arglwydd, felly y mae yn bechod arall iti na baech mewn mesur wedi dy gymmwyso a'th baratoi iddo. Rhaid iti ddyfod yn gymmwys ac onid ê ti a ddeui yn anheilwng; ond edrych na byddech yn peidio â ⟨p. 198⟩dyfod, rhag gorfod o honot fyned ir boen i ymbaratoi, neu ymrwymo i arwain y fath fuchedd sanctaidd ac a ddylit wedi ei dderbyn. Y rhai fydd yn dysod yn ammharod sydd yn halogi 'r ordinhad hwn, a'r rhai sydd yn esceuluso ymbaratoi sydd yn gwneuthur cyfrif bychan o honaw.
In ail, y mae eraill in ymescusodi o herwydd eu anheilyngdod, och y maent in gwbl anaddas ir faith ordinhâd sanctaidd, ac ir faith wlêdd nefol.
Yn ail, y mae eraill yn ymescusodi o herwydd eu anheilyngdod, och y maent yn gwbl anaddas ir fath ordinhâd sanctaidd, ac ir fath wlêdd nefol.
Atteb. Os ydwyt mewn gwirionedd in deimladwy oath anheilyngdod, ac in ymddarostwng o'i blegyd, y mae hynny in râdd dda o deilyngdod, ac in ein gwneuthur ni in gymmwysach i fod in gyfrannogion o gorph a gwaed Christ a ddelir allan ini in yr ordinhâd hwn. Pa anheilyngaf a fyddo 'r gostyngedic in ei dŷb ei hun, teilyngaf a fydd efe yngolwg Duw.