B10304:160
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Yr hen Gymanfa-Gyngor Gangrense sy'n peri na wnelo •eb y faith ragoriaeth rhwng offeiriaid priodol, ag ambriodol, a bod iddo dybied fod ynaill o ran amhriodoldeb ⟨p. 125⟩in sancteiddiolach no'r llall. Eithr y mae'r gwyr hyn in gwneuthyr cymaint rhagoriaeth, a bod onynt in tybied in y man,1 ddarfod dwyno eu holl sanctaidd wasanaeth, os gwr duwiol priod a fydd in ei gylch ef. Yr hen Ymerodr Justinian a orchmynn odd draethu pob peth in y gwasanaeth bendigaid, a llaferydd rhwydd, uchel, llathraidd, megis y galle'r bobl dderbyn ffrwyth o honaw. Nhwytheu fall na allo'r bobl ddim o'u dealld, nid in unig sissial eu gwasanaeth y maent mewn llaferydd issel afrwydd, namyn hefyd mewn jaith ddeithr ddi-ddealld. Yr hen Gymanfa Gyngor yngh Carthago a orchmynnodd na ddarllennyd dim ynghynlleidfa Christ onid y Scrythurau glan canonedig:2 eithr darllen y mae'r gwyr hyn in eu heglwysi, y petheu y gwyddant hwy eu hunain may celwyddeu a choeg chwedleu ydynt.
Yr hen Gymanfa-Gyngor Gangrense sy'n peri na wnelo •eb y fath ragoriaeth rhwng offeiriaid priodol, ag ambriodol, a bod iddo dybied fod ynaill o ran amhriodoldeb ⟨p. 125⟩yn sancteiddiolach no'r llall. Eithr y mae'r gwyr hyn yn gwneuthyr cymaint rhagoriaeth, a bod onynt yn tybied yn y man,1 ddarfod dwyno eu holl sanctaidd wasanaeth, os gwr duwiol priod a fydd yn ei gylch ef. Yr hen Ymerodr Iustinian a orchmynn odd draethu pob peth yn y gwasanaeth bendigaid, a llaferydd rhwydd, vchel, llathraidd, megis y galle'r bobl dderbyn ffrwyth o honaw. Nhwytheu fal na allo'r bobl ddim o'u dealld, nid yn vnig sissial eu gwasanaeth y maent mewn llaferydd issel afrwydd, namyn hefyd mewn iaith ddeithr ddi-ddealld. Yr hen Gymanfa Gyngor yngh Carthago a orchmynnodd na ddarllennyd dim ynghynlleidfa Crist onid y Scrythurau glan canonedig:2