B10304:207
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gedwch i ni ystyrio bellach a thalfyrru hyn o ymadrodd: y gwyr sydd ag awdurdod genthynt ar yr Escobiō: yr rhai a dderbyniasant orchmynion oddi wrth Dduw ynghylch gwir grefydd; y rhai sydd in dwyn Arch Dduw adref drachgefn: in gwneuthyr Psalmeu sanctaidd; in olygwyr ar yr offeiriaid: in adeiladu Temleu; in traethu ymadroddiō o wasanaeth Duw; in ail-lanhau'r Demleu: in bwrw i lawr uchelfeudd: in llosci llwyneu'r Eulunod; in dyscu'r offeiriaid eu swyddeu, ac in scrifenny rheoledigaetheu iddynt i arwain eu vuchedd; in lad y Prophwydi annuwiol; in symmyd yr Escobion o'• lleoedd: in galw Cymanfa-Gynghorau Escobion: in eistedd gyda‘r Escobiō ag in eu hyfforddi nhwy: in barnu Escob heretic iw gospedigaeth; ⟨p. 175⟩in mynny eu gwneuthyr in gydnabyddus ag achossion Crefydd, a‘r rhai dan scrifenny eu henweu, ag adrodd eu meddylieu mewn Seneddau, ydynt in cwplau hyn y gyd, nid drwy archiad ag awdurdod arall, eithr in eu henw eu hunan: A ddoedwn-ni am y rhai hyn, nad yw'n perthyny iddynt ymyrryd ag achossion Crefydd? Neu am y Pennaeth, o wr llyg, a fo iddo a wnelo a'r petheu hyn, a ddoedwn-ni ei fod ef in gwneuthyr in ddrwg, neu'n rhyfygus, neu'n echryslawn? Yr Ymerodreu a'r Brenhinoedd cristioneiddiaf a mwyaf eu henafiaeth a'mfrussurent gynt in yr achossion hyn; ag etto ni ddoetpwyd erioed arnynt, o ran hynny, na'u bod in echryslawn, nag in rhyfigus chwaith. A phwy a gais ymofyn am Dwysogion catholiccach, neu am sampleu ardderchoccach? Gan hynny, os rhydd oedd iddyn-nhwy wneuthyr hyn, yr rhai nid oeddynt amgenach no Phennaethieid o wyr llyg in llywodraethu Teyrnassoedd; pa fai a wnaeth eyn Twysogion ni'r amser ymma, nad rhydd iddyn-nhwytheu wneuthyr y cyfryw, •an fod onynt in y cyfryw radd? Neu, pa nerth gorchestol o disc, a baru, a sancteiddrwydd, sydd in eyn gwrthwynebwyr ni, pride na fynnant i Dwysogion Cristnogawl gael gwybodaeth o'r achos eithr eu gwahardd ⟨p. 176⟩o'u Seneddau: a hynny'n ollawl in erbyn deddfod yr hen Escobion catholic, yr rhai oeddynt arfer ynghylch crefydd o'mgyd-gynghori a Thwysogion ag a Phennaethiaid? Weal, y mae'n abl eu helynt nhwy, drwy hyn o fasnach geisio siccurhau eu braint a'u brenhiniaeth; yr hyn a welant a ddiflanne‘n fuan oni bae hynny. Herwydd pet‘r rhai a ossododd Duw'n y radd uchaf in gweled ag in gwybod dichellion y gwyr hyn, pa fodd y maent in dirmygu gorchmynnion Christ: in tywyllu ag in diffoddi goleu‘r Efengyl: