B10304:29
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
I'R GWIR URDDASSOI A ‘M CAR ANWYL, William Meredydd.
I'R GWIR VRDDASSOI A ‘M CAR ANWYL, Wiliam Meredydd.
MI a welaf may peth arferedig in yr hen oesoedd gynt ymhlith y Groegwyr a ‘r Lladinwyr penna ‘i disc a ‘u cymeriad, ydoedd gwneuthyr anrhegion o‘u gorchwilion dyscedig i‘r sawl oedd nessaf iddynt, a hoffaf genthynt: fall y gallent, drwy ‘r cyfryw fodd, adel hyspysrwydd i‘r oesoedd a deal ar eu hol nhwy, am rinwedd a rhyglyddiadd y gwyr hynny rhagor eraill. Nid anghymmwys i mine ddilyn yr un llwybr wrth ossod allan cyfieythiad hyn o addysc, yr hwn yr wyf in ei orchymyn i‘ch nodded. Oblegig, fegis nad oes neb byw fwy ei search a ‘i ewyllis ar wneuthyr mowr-less i‘ch gwlad na chwi ‘n unig, felly nid oes neb dayarol a haedde gael hyn gennyf, o‘ch blaen chwi ‘ch hunan. Ag er mwyn nad amheuthyn gennych ddim a aller ei fyfyrio a‘i anrhegu ⟨image 5⟩i chwi in Saesonaeg, neu‘'n Lladin; (in yr hyn jeithoedd y buoch erioed gynefin a phob rhyw disc ag athrawiaeth) hefyd, gan i ni'n dau ddwyn eyn bid allan o Gymry, a bod mor anghynefin i mi scrifenny, ag yw i chwithe ddarllen dim in yr jaith Gymraeg; hynny a wnaeth i mi, ydwyf wir gymro, a gwir gâr o ‘r eyddoch, ddewis eych annerch a ‘ch anrhegu in Gymraeg, chwaethach nog mewn un jaith arall. Pa gymro bynnag a gaffo wellaad disc, neu gynyddiad gwybodaeth, oddi wrth y llyfr hwn, diolched i Dduw in gyntaf, ag i chwithe in ail. Ef a ddengys hwn y llwybr i ‘r anghyfarwydd. A chyda hyn, pettid in pregethu Efengyl Christ ing Hymry, fall y gwelsoch chwi a mine mewn gwledydd eraill, diau nad oes Genedlaeth ing-Hred a all ragori ar y Cymry mewn Crefydd a Duwioldeb; gan eu bod nhwy o athrylith a naturiaeth in chwā nog i ddyscu pob Rhinwedd a Dayoni, and cael ei dangos a ‘i ddeongl iddynt. ⟨image 5⟩