B10304:49
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
A phwy ni wyr beth a ddoetpwyd gynt am Saint Paul (ydoedd owchysaf bregaethwr a diball gynhaliwr y gwir) fod honaw weithieu in din blin cyffrous in codi terfysg, ag in gwneuthyr gwrth-ryfel, weithieu ei fod ef in Heretic: weithieu in ynfyd?1 ag withieu eraill o wir gynnen a chyndynrwydd in cablu cyfraith Dduw ag in dirmygu deddfau yr hen dadeu: Hefyd, pwy ni wyr pa fodd y gwnaethpwyd a S. Stephan yr hwn pan ddaroedd iddo a lawn ag a llawen enaid gofleidio 'r Gwirionedd, a dechre onaw ef, fall y dyle, ei bregethu in hy-lwyb'r ai ossod allā in ddihafarch, ef a alwyd in y ⟨p. 4⟩fan i gymeryd barn am ei hoedl, megis un a ddoedasse Drawsder a thraha in-nerbyn y Gyfraith, in nerbyn Moses, ynerbyn y Dem'l egg in-nerbyn Duw? Neu pwy nis gwyr fod rhai in yr amseroedd gynt a roent ogan,2 gan ddoedyd fod offered in y Scrythur lan a'i bod in cynnwys petheu amlwg amrafaelus ag yngwrthwyneb eu gilidd?3 A bod Apostolion Christ bob un in ymrysson ar llall, a Phawl in anghymmod a nhwy i gyd? Ag er nad adroddom y cwbl (herwydd hynny fydde anniben) pwy ni wyr pa wawd a gwradwydd a wnaed am ben eyn teidiau ni yrhai a ddechrevassant gyntaf gyd-addef a chymeryd arnynt enw Christ gan haeru arnynt gydfwriadu wrthynt eu •unain,4 ag ymgynghori in ddirgel in nerbyn stad y deyrnas, ag o ran hynny eu bod nhwy in mynych gyfarfod cyn lliw did in y tywyllwch i lad plant jevaingc, i ymlenwi a chig dynnion, ar dull anifeiliaidd i yfed eu gwaed: In y diwedd, fod eu harfer o ddiffoddi'r canhwylleu a gwneuthyr godineb in eu mysc eu hunain* a gwarthus affendid y nail ar llall, brod yr in gorwedd gida'u chwiorydd, meibion gida'u mammeu, heb perchu gwaed na charennydd, beb genthyn ddim math ar grefydd, na dim ⟨p. 5⟩meddwl am Dduw, cas elynion rhywiogaeth din; na ddylent gael gweled goleu'r did, na ddylent gael byw in y bid: yr holl gam weddau hyn a haerwyd gynt ar dylwyth Dduw ar Grist Jesus, ar Bawl Apostol, ar Stephan, ar bawb o'r sawl bynna'g in y derhrevad a dderbyniassent wirionedd yr Efengyl, ag oeddynt fodlon adel eu henwi'n Gristnogion,