B10304:60
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad…
Dad seiniad meibion y daran self ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An echo of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apology, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.Dad seiniad meibion y daran sef ail-printiad o lyfr Escob Juel a elwir deffyniad ffydd eglwys loegr : ac o epistol yr Escob Dafies at y Cembru = An eccho of the sons of thunder, being a second impression of Bishop Juel's Apologie, and of Bishop Davies his Epistle, in the British tongue.
Oxford : Printiedig in Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671Oxford : Printiedig yn Rhydychen gan W.H. ac a werthir gan lyfrwyr Grecsam a Llanfyllin ..., 1671
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Am hynny'n bennaf dim, y gwelsom in dda adrodd mewn scrifen, sylwedd a hanes eyn ffydd, gan atteb in gywir ag in gyhoeddedig, i'r petheu a rowd in gyhoeddedig ag in gyhuddedig i'n herbyn, megis y gallo'r holl fyd welled a gwybod canghau a gwraidd yr Athrawiaeth a ddarfu i gynnifer o wyr da golly ei hoedleu amdeni: a hefyd fall y bo hysbys i bawb, pa faith ddynion a pha beth y maent in eu dybied am Dduw a chrefydd, ydyw yr rhai a ddarfu i Bâb Rhu•ain eu barnu a'u bwrw in Hereticiaid drwy amhwyll ag anghyfiownder (peth ni wnawd erioed o'r blaen) cyn galw-amdanynt i atteb drostynt eu hun, eithr in unig am i'r Pab glywed doedyd eu bod nhwy heb fedry dygymmod a rhyw buncieu crefydd gydag ef, ai blaid.
Am hynny'n bennaf dim, y gwelsom yn dda adrodd mewn scrifen, sylwedd a hanes eyn ffydd, gan atteb yn gywir ag yn gyhoeddedig, i'r petheu a rowd yn gyhoeddedig ag yn gyhuddedig i'n herbyn, megis y gallo'r holl fyd weled a gwybod canghau a gwraidd yr Athrawiaeth a ddarfu i gynnifer o wyr da golli ei hoedleu amdeni: a hefyd fal y bo hysbys i bawb, pa fath ddynion a pha beth y maent yn eu dybied am Dduw a chrefydd, ydyw yr rhai a ddarfu i Bâb Rhu•ain eu barnu a'u bwrw yn Hereticiaid drwy amhwyll ag anghyfiownder (peth ni wnawd erioed o'r blaen) cyn galw-amdanynt i atteb drostynt eu hun, eithr yn vnig am i'r Pab glywed doedyd eu bod nhwy heb fedry dygymmod a rhyw buncieu crefydd gydag ef, ai blaid.
Ag er na sin Saint Hieronimus i neb gymryd in ddioddefgar pan amhevid ef am* Heresi: etto ninny in hyn o beth a'mddygwn eyn hun in ddi-chwerw ag in ddi-sen heb na llid na digofaint, pe rhown na ddyle gael ei adel nag in chwerw nag in sen-gar a ddoetto 'r Gwir: Nyni adawn y faith ffraethder a honno i'n gwrthwynebwyr, yr rhai beth bynnag a ddoettont in eyn herbyn ni, er chwerwed a serthed fyddo, etto tybied y maent mae digon ⟨p. 17⟩cymmwys a chymedrol ydyw; a pha wi ai gwir, ynte celwydd fo, nid gwaeth genthynt. Nid rhaid i ni (y rhai ydym in ymddiffyn y Gwir) wrth y faith ddichellion ar rhain Gyda hyn, o dangosswn fod cyssegrlau Efengyl Duw, ar hen Escobion, a'r Brif-Eglwys, in pwysso ar eyn tu ni, ag na ddarfu i ni heb achos cyfiawn ymadel a nhwynt-hwy, a dychwelyd at yr Apostoliau a'r hen Athrawon Catholic; a gwneuthyr o honom hynny nid in ddirgel neu'n ddichellgar, eithr in ffyddlon geyr bron Duw, in wirion, in union, in eglur, ag in amlwg: Ag os hwynt-hwy (y rhai sy'n gochel eyn hathrawiaeth ni, gan finny eu galw eu hunain in Gatholic) a gant welled in hysbys fod yr holl ddanghossion Henaflaeth, o'r hyn y maent in gwneuthyr cymaiut frost, wedi yscydwyd allan o'u dwylo nhwy, a bod mwy o rim a nerth in eyn hachos ni nag a dygassent: Gobeithio'r ydym nad oes yr un o honynt mor ddi-offal ar less ei enaid, na feddylio'n y diwedd pa blaid orau iddo'i gymryd