Ir Darllenydd.
3 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ir Darllenydd.
O Bid un Cymro in dymuno gwybod pa ham y rhwngodd bodd yr Andwr o'r llyfr hwn ei alw in Madruddyn o'r Difinyddaeth diweddaraf, bydded hyspys gantho mae dymma 'r achos, am iddo, dan chwilio scrifenniadau'r gwir duwiol dedwydd enwau parhai sy in canlyn, crynoi fell pe dywedwn yr hufen neu 'r mer y teccaf a'r gorevon o'u gweithredoedd hwy iw lyfr ymddiddanaidd hyn. Ac heb law hyn rhag rhwystro neb trwy 'r aml camsyniadau ym nihiintiad y Cymraeg, bydded hyspys gennit. Y Cymro mwyn fod rhagor i cant o fillteroedd rhwng fy nhrigfa i a'r Print-dû, ac nad oedd fall y gwelei wrth llythr y printiwr y ddaeth i'm law i, onid braid un Cymro iw cael trwy holl Llundain i ddisgwyl ar y printiad ac i cyfarwyddo ⟨image 8⟩'r gweithwyr Saesnyg ac i cyweirio 'r aml ddyffygion a sy giw gennit, attolwg, oath fawr fwyneidddra fy ngymmeryd i in escusodol a than mined in yscafn heibio 'r camsynniadau llythrennol canys aml in siccr yw 'r camosodiadau a'r diffygion o llythrenna ac o'r accentau rhai'n (••) anhepcor in y Cymraeg, cofio in ddianwadal er dy well ystyriaeth cyweirio hyn o ddyffygion mwyaf sy in canlyn, a thy a'm rhwymi i fod
O Bydd un Cymro yn dymuno gwybod pa ham y rhwngodd bodd yr Andwr o'r llyfr hwn ei alw yn Madruddyn o'r Difinyddaeth diweddaraf, bydded hyspys gantho mae dymma 'r achos, am iddo, dan chwilio scrifenniadau'r gwir duwiol dedwydd enwau parhai sy yn canlyn, crynoi fel pe dywedwn yr hufen neu 'r mer y teccaf a'r goreuon o'u gweithredoedd hwy iw lyfr ymddiddanaidd hyn. Ac heb law hyn rhag rhwystro neb trwy 'r aml camsyniadau ym nihiintiad y Cymraeg, bydded hyspys gennit. Y Cymro mwyn fod rhagor i cant o fillteroedd rhwng fy nhrigfa i a'r Print-dû, ac nad oedd fal y gwelei wrth llythr y printiwr y ddaeth i'm llaw i, onid braidd un Cymro iw cael trwy holl Llundain i ddisgwyl ar y printiad ac i cyfarwyddo ⟨image 8⟩'r gweithwyr Saesnyg ac i cyweirio 'r aml ddyffygion a sy giw gennit, attolwg, oth fawr fwyneidddra fy ngymmeryd i yn escusodol a than myned yn yscafn heibio 'r camsynniadau llythrennol canys aml yn siccr yw 'r camosodiadau a'r diffygion o llythrenna ac o'r accentau rhai'n (••) anhepcor yn y Cymraeg, cofio yn ddianwadal er dy well ystyriaeth cyweirio hyn o ddyffygion mwyaf sy yn canlyn, a thi a'm rhwymi i fod
In wasanaethwr parodol i ti ym mhob gorchwyl Christnogaidd Zion Tree-redyn. May 10. 1651.
Yn wasanaethwr parodol i ti ym mhob gorchwyl Christnogaidd Sion Tre-redyn. May 10. 1651.