Nid y gwybodaeth noeth o'r Scrythyrau, a'r seiliau cyntaf o grefydd, ydyw gwir ffydd, (Canys mae y cythreuliaid, a'r gwrthodedigion mewn mesur tragodidawg in credu ac in crynu, Jag. 3.19.) eithr gwir grediniaeth o'r holl bethau ar a ddarfu i'r Arglwydd ⟨p. 302⟩eu dadcuddio in ei Air; ac hefyd neillduol osodiad at enaid din ei hun o'r holl addewidion o drugaredd, yr rhai a wnaeth Duw in Ghrist i bechaduriaid credadwy. Ac in ddilynawl fod Christ a'i holl haeddedigaethau, in perthyn iddo ef in gystal ac i un arall. Canys in gyntaf, o ni bid gennym ni gyfiawnder y ffydd, nid yw y Sacrament in selio dim i ni; Ac y mae pob dŷn in Swpper yr Arglwydd in derbyn cymmaint ac y mae in ei gredu, Rhuf. 4.11. In ail, O blegid heb ffydd na allwn ni y rhai ydym in Cymuno ar y ddaiar ymgyffred Christ in y nefoedd. Canys fell y mae ef in trigo ynom ni trwy ffydd. Eph. 3.17. felly trwy ffydd un agwedd y rhaid i ni ei fwyta ef. In drydydd, oblegid heb ffydd ni allwn ni fodloni neu berswadio ein cydwybod ein bod in Cymmuno in gymmeradwy ger bron Duw. Heb. 11.6. Rhuf. 14.23.
Nid y gwybodaeth noeth o'r Scrythyrau, a'r seiliau cyntaf o grefydd, ydyw gwir ffydd, (Canys mae y cythreuliaid, a'r gwrthodedigion mewn mesur tragodidawg yn credu ac yn crynu, Jag. 3.19.) eithr gwir grediniaeth o'r holl bethau ar a ddarfu i'r Arglwydd ⟨p. 302⟩eu dadcuddio yn ei Air; ac hefyd neillduol osodiad at enaid dyn ei hun o'r holl addewidion o drugaredd, yr rhai a wnaeth Duw yn Ghrist i bechaduriaid credadwy. Ac yn ddilynawl fod Crist a'i holl haeddedigaethau, yn perthyn iddo ef yn gystal ac i vn arall. Canys yn gyntaf, o ni bydd gennym ni gyfiawnder y ffydd, nid yw y Sacrament yn selio dim i ni; Ac y mae pob dŷn yn Swpper yr Arglwydd yn derbyn cymmaint ac y mae yn ei gredu, Rhuf. 4.11. Yn ail, O blegid heb ffydd na allwn ni y rhai ydym yn Cymuno ar y ddaiar ymgyffred Crist yn y nefoedd. Canys fel y mae ef yn trigo ynom ni trwy ffydd. Eph. 3.17. felly trwy ffydd vn agwedd y rhaid i ni ei fwyta ef. Yn drydydd, oblegid heb ffydd ni allwn ni fodloni neu berswadio ein cydwybod ein bod yn Cymmuno yn gymmeradwy ger bron Duw. Heb. 11.6. Rhuf. 14.23.