In ail mae in rhaid i ti offrymmu aberth o neillduol ddiolch i Dduw am y rhád ar drugaredd anrhaethadwy hon: Canys fell y mae y weithred hon in gyffredin ir holl Eglwys, felly ei cymmwysir in neillduol i bob un or ffyddloniaid in yr Eglwys, ac am y neillduol drugaredd honey mae 'n rhaid i bôb enaid offrwm i fynu in llawen neillduol aberth o roddi diolch. Canys os darfu i'r doethion lawenychu cymmaint pan welsant y Seren yr hon oedd in eu tywys hwynt at Grist, a'i addoli ef mor grefyddol, ⟨p. 117⟩pride yr oedd ef in blentyn in gorwedd in y preseb, ac offrymmu iddo ef aur, myrrh, a thus; pa faint mwy y dylyt ti orfoleddu yr awrhon ddarfod i ti in gystal welled, a derbyn y Sacrament hon, yr hon sydd in arwain dy enaid di atto ef, lle mae in eistedd ar ddeheulaw ei Dâd mewn gogoniant? A chan dderchafu dy gallon hid yno, addola ef, ac abertha iddo ef yr aur o wir bûr ffydd, a myrrh calon farweiddiol, a'r thus hwn neu'r cyfryw felus arogldarth o weddi a diolch.
Yn ail mae yn rhaid i ti offrymmu aberth o neillduol ddiolch i Dduw am y rhád ar drugaredd anrhaethadwy hon: Canys fel y mae y weithred hon yn gyffredin ir holl Eglwys, felly ei cymmwysir yn neillduol i bob un or ffyddloniaid yn yr Eglwys, ac am y neillduol drugaredd hon y mae 'n rhaid i bôb enaid offrwm i fynu yn llawen neillduol aberth o roddi diolch. Canys os darfu i'r doethion lawenychu cymmaint pan welsant y Seren yr hon oedd yn eu tywys hwynt at Grist, a'i addoli ef mor grefyddol, ⟨p. 117⟩pryd yr oedd ef yn blentyn yn gorwedd yn y preseb, ac offrymmu iddo ef aur, myrh, a thus; pa faint mwy y dylyt ti orfoleddu yr awrhon ddarfod i ti yn gystal weled, a derbyn y Sacrament hon, yr hon sydd yn arwain dy enaid di atto ef, lle mae yn eistedd ar ddeheulaw ei Dâd mewn gogoniant? A chan dderchafu dy galon hyd yno, addola ef, ac abertha iddo ef yr aur o wir bûr ffydd, a myrrh calon farweiddiol, a'r thus hwn neu'r cyfryw felus arogldarth o weddi a diolch.