Yr Ochenaid ysprydol ar y pummed Meddwl.
pp. 391–3922 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Yr Ochenaid ysprydol ar y pummed Meddwl.
O Arglwydd, ti weli lid a malis Satan, yr hwn nid yw ddigon ganddo megis llew rhuadwy rodio oddiamgylch i geisio ein difa holl ddyddiau a nosweithiau ein bywyd, eithr y mae ef in ei ddangos ei hun bryssuraf, pan fo dy blant ti in wannaf, ac in tynnu in nessaf i'w diben. O Arglwydd cerydda ef, ac ymddiffyn fy enaid. Y mae ef in ceisio fy nychrynu i â marwolaeth, yr honey mae fy mhechodau in ei gwbl haeddu. And gâd ti i'th Yspryd glân ddiddanu fy enaid â diogelrwydd o fywyd tragwyddol, yr hwn a brynodd dy werthfawr waed. Esmwytha ar fy mhoen, chwanega fy ammynedd, ⟨p. 392⟩ac (os dy fendigedig ewyllys yw) dibenna fy mlinderau: Canys y mae fy enaid in deisyfu arnat gyd a'r hen Simeon fendigedig: yr awrhon Arglwydd gollwng fi dy wâs i ymadel mewn tanghneddyf in ôl dy air.