Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
4. Rhinweddau a grasyssau iw dymuno.
Y Grâs iw ddymuno, yw parodrwydd meddwl ymmhob cyflwr ein bywyd i orphywys ar ragddarparwch Duw, pa beth bynnag a ddigwyddo i ni Psal. 37.5. Treigla dy ford ar yr Arglwydd, ac ymddiried ynddo, ac efe a gyflawna dy ewyllys. Dihar. 16.3. Treigla dy holl weithredoedd ar yr Arglwydd: a'th feddyliau a gyfarwyddir: yr is in hyn in ein rhybyddio i gymmeryd poen in ein galwedigaetheu i ynnill a chesio ein bwyd a'n diod, &c. Os yr Arglwydd nis llwydda lafur ein dwylo rhaid i ni fod in fodlon, eithr os gwneiff hynny rhaid i ni fod in ⟨p. 96⟩ddiolchgar. Ac oherwydd hyn ni ddylem ymmhellach weddio ar Dduw, ar iddo agoryd ein llygaid, a'n dyscu trwy ei yspryd, i welled in ei holl greaduriaid da, ei ragddarparwch ef, a phan fo'r moddion in wrthwyneb ac in methu, yna hefyd i obeithio a chredu in ei ragddarparwch ef.
Y Grâs iw ddymuno, yw parodrwydd meddwl ymmhob cyflwr ein bywyd i orphywys ar ragddarparwch Duw, pa beth bynnag a ddigwyddo i ni Psal. 37.5. Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd, ac ymddiried ynddo, ac efe a gyflawna dy ewyllys. Dihar. 16.3. Treigla dy holl weithredoedd ar yr Arglwydd: a'th feddyliau a gyfarwyddir: yr ys yn hyn yn ein rhybyddio i gymmeryd poen yn ein galwedigaetheu i ynnill a chesio ein bwyd a'n diod, &c. Os yr Arglwydd nis llwydda lafur ein dwylo rhaid i ni fod yn fodlon, eithr os gwneiff hynny rhaid i ni fod yn ⟨p. 96⟩ddiolchgar. Ac oherwydd hyn ni ddylem ymmhellach weddio ar Dduw, ar iddo agoryd ein llygaid, a'n dyscu trwy ei yspryd, i weled yn ei holl greaduriaid da, ei ragddarparwch ef, a phan fo'r moddion yn wrthwyneb ac yn methu, yna hefyd i obeithio a chredu yn ei ragddarparwch ef.