Am yr Arfer O weddi 'r Arglwydd:
pp. 127–1304 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Am yr Arfer O weddi 'r Arglwydd:
Diben Gweddi 'r Arglwydd yw dangos, a dys•• i eglwys Dduw, ymmhob man, ar bob amser, ac ar bob achos, pa beth a pha fodd i weddio, er bod eu gweddiau in anneirif: Ac onis byddant hwy wedi eu gwneuthyr ar lûn a dull y weddi hon, nis gallant ⟨p. 128⟩fod in gymmeradwy gyda Duw. Wrth arfer y weddi hon in lle ecsampl i'n cyfarwyddo, y mae try pheth in anghenrheidiol. 1 Y cyntaf yw gwybodaeth o weddi yr Arglwydd, a'i holl rannau: y neb a chwennycho weddio, in ôl hon, rhaid iddo wybod ei deal a'i hystyr hi, a'r eisieu a'r pechodau iw alaru oi plegit wrth ei harfer hi, a'r donniau a'r grasussau iw dymuno: ac ir diben hyn y deonglwyd y weddi. 2. Wedi gwybod hyn, y mae in rheidiol hefyd in yr ail lle, fedry ohono gyfeirio bob eisieu a phôb grâs i un o'r chwech arch: er ecsampl, wrth glywed ynddo ei hun falchedd calon, rhaid iddo fedry dywedyd y mae hyn iw alaru oiblegid wrth arfer yr arch gyntaf: ac wrth glywed gwrthnyssigrwydd, a llaesdra neu ddiogi am wneuthyr a chyflawni gorchmynnion Duw, dyle wybod a medry dywedyd, may pechod yw hwn, sydd raid gweddio in ei erbyn in y drydydd arch: Ac fell hyn y bid rhaid iddo gyfeirio pôb eisieu iw ben ei hun: a thrachefn rhaid iddo fedry cyfeirio pob grâs y sydd iw ddymyno i un o'r chwech arch: megis nerth mewn profedigaeth i'r chweched: ffydd a chréd in rhagddarparwch Duw, i'r bedwerydd: gwybodaeth am Dduw, i'r gyntaf, &c. Ac fell hyn am y lleill. 3. In y trydydd lle, rhaid iddo cyn gweddio ystyried a'chonsidro beth yw ei eisieu, a'r ammherffeithrwydd y sydd fwyaf in ei flino, a'r grasyssau hefyd y mae fo in hiraethu amdanynt:ac in a er cynhorthwyo a helpu ei gôf, rhaid iddo ⟨p. 129⟩fined at yr archau; a mefyrio ynddo ei hun, a meddwl, a chofio, in gyntaf, am y pethau y sydd berthynassol ir arch gyntaf; a'r pethau a berthynant i'r a'il in nesaf, a mined rhagddo in y mod hyn mal y bo iddo achos. Fell hyn y geill y neb a gofio drefn a dosparth yr archau fod in abl, (trwy ddwyn a chyfeirio pôb grâs, a phob eisieu iw ben ei hun) i wneuthyr gweddiau, a gwahanu rhwng pôb arch ai gilidd, a'i newid hwy megis ac y bo'r amser, a'r lle, a'r achos in gofyn.