Gof. 56. Pa sawl Gorchymyn sydd?
pp. 211–21631 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gof. 56. Pa sawl Gorchymyn sydd?
Atteb. Y mae deg Gorchymmyn, y rhai sydd in cynwys swm y Gyfraith foesol.
Atteb. Y mae deg Gorchymmyn, y rhai sydd yn cynwys swm y Gyfraith foesol.
Egiur. In yr Atteb yma yr adroddir daubeth.
Egiur. Yn yr Atteb yma yr adroddir dau beth.
1. Fod deg Gorchymmyn.
2. Y Cynwysir swm y gyfraith foesawl ynddynt.
Am y cyntaf, yr ydym in darllen in eglur fod deg Gorchymmyn, in Deut. 4.13. lle y mae Moses gan lefaru wrth yr Israeliaid, in dywedyd, Duw a fynegodd i chwi ei gyfammod a orchymynnodd efe i chwi iw wneuthur, self y deng air; ac a'i scrifennodd hwynt ar ddwy lech faen. Yma y rhennir y gyfraith in ddêg Gorchymmyn, y rhai gan hynny a elwir in y Groeg Decalogue.