A04462:111
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Er gallu o hyn in unig o rybudd wasnaethu i din synhwyrol, na adawo ef ar fyrbwyll mo‘i dwyllo drwy henw‘r Eglwys, fegis na bae iddo edrych ymhellach o‘r plegit, yngair Duw; Etto heblaw hyn y gyd, lawyer o Dadeu, a lawyer o wyr dyscedig Duwiol, a gwynasant in dost jawn, ddarfod digwyddo‘r holl betheu hyn, in eu hamseroedd nhwy. Herwydd ynghanol niwl y tywyllwch, e sin Dduw fod rhai, er na rodent oleuni gloyw-amlwg, etto a gynnevent fegis rhyw wreichionen, fall y gall‘r dynion in y tywyllni ei chanfod. Hilarius pan oedd petheu Eglwysig in ddilugredig, in ei herwydd, ag in ddiwall; ⟨p. 51⟩Drwg (hebr ef) y gwnaethoch chwi garu‘r parwydydd: 1Drwg yr ydych chwi in addoli Eglwys Dduw, gan eych bod iw haddoli hi mewn tai ag adailadeu; Drwg yr ydych in dwyn i mewn henw Tangneddyf dan fargodeu. Ai ammhevol ydyw nad eistedd Anghrist in yr adail hyn? diogelach, dybygwn i, yw‘r Mynyddoedd, a‘r Coedydd, a‘r llynnoedd, a‘r Carchareu, a‘r Suglennydd; oblegid y Prophwydi, ynaill ai in aros, ai ynte wedi bod di in y lleoedd hynny, a brophwydasant drwy yspryd Duw. Gregorius fall un oedd in gweled ag in canfod o‘r blaen in ei feddwl, ddestruwiad pob peth, a scrifennodd at Joan escob Constantinopl, yr hwn ydoedd y gwr cyntaf o‘r cwbl a orchmynnodd ei alw‘i hun in Ben-Escob Eglwys Christ drwy‘r holl fyd; Os ar un gwr, (hebr Gregorius,2) y rhoir pwys yr Eglwys, hi a gwymp y gyd i lawr. A phwy nid yw‘n gweled, ddarfod cwplau hyn er is-talm bid? Herwydd her jawn ydyw, er pan fynnodd Pâb Rhufain i‘r holl Eglwys orphwys arno fo‘i hunan; ag am hynny nid rhyfedd ddarfod iddi gwympo y gyd er is-talm o amser. Bernardus yr Abad, er is mwy na phedwar can mylynedd i heddyw, a scrifennodd fall hyn: Nid oes yrowron ddim in bur ag in ber▪ ⟨image 59⟩faith in y gwyr Eglwysig: Nid oes bellach in ol, onid dat-guddio din y pechod. Ar un rhyw Barnardus a scrifennodd in y llyfr a wnaeth ef o Droadigaeth Pawl i‘r ffydd: Cyffelyb yw (hebr ef) ddarfod peidio bellach ag erlid: Nag-e, cyffelyb yw may dechre erlid yrowron y mae‘r rhai sy‘n dwyn penna rhwysc in yr Eglwys. Dy hoff-ddynion ath gymydogion a ym-nesasant ag a safasant in d'erbyn di; O wadn dy droed hid yngwastad dy ben, nid oes un fan jach. Enwiredd sy‘n deilliaw oddi wrth yr Henuriaid, a‘r Barnwyr, a‘r rhag-Bennaethiaid, y rhai sydd in cymryd arnynt lywodraethu dy bobl. Ni allwn i ddoedyd yrowron, fall y mae‘r bobl, felly mae‘r offeiriaid: