A04462:114
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1Eddoedodd Gerson ddarfod drwy luosogrwydd çeremoniae coegion, ddiffoddi holl rinwedd yr Yspryd glan, yr hwn a ddyle lawn-weithio ynom, a hefyd ddarfod diffodd pob duwioldeb. Holl wledydd Greçia, ag Asia, sy‘n cwyno ddarfod i Babau Rhufain drwy ffeirieu eu Purdan, a‘u Pardyneu, dreisio cydwybodeu dynion ac yspeilio‘u pyrseu.
- 1Gerson.
Tu-ag-at am drowsed Pabau Rhufain a‘u hanfeidrol falchder Persianaidd (er na sonniom am eraill, y rhai y scatfydd, y mae‘r Pabau‘n eu cymeryd in elynion, oblegid iddynt, in hyf, ag in ddiragrith, ddangos eu drug-campeu,) nid amgen no‘r gwyr ymma, self, Laurentius Valla, Marsilius Patavinus, Françis Petrarcha, Hieronimus Savonarola, yr Abad Joachimus, Baptista Mantuanus, ag o‘u blaen nhwytheu, yr Abad Barnard; y rhai hyn y gyd (meddaf) a gwynasant in synych, ag in ddirfawr jawn, ar y Pabau. A‘r gwyr hyn oeddynt in dwyn ei bid in Rhufain, in y dref sanctaidd, yngolwg y sancteddiolaf Dad, ag oeddynt in gallu gweled holl gyfrinacheu‘r Pabau: A‘r rhain nid ymadowsont ddim a‘r ffydd gatholic: je, a chen eych cennad, nhwy a roent weithie ar ddealld i‘r bobl, may‘r Pab eu hun ydyw‘r Anghrist; ⟨p. 53⟩pwy un ai gwir, ai celwydd a ddoedasant, ni cheisiwn-ni yngen: and diau ddoedyd onyn-nhwy hynny‘n ddi-arswyd. Ni ddichyn neb ddoedyd may dyscyblon Luther, neu Zuinglius, oedd y rhai hyn: Herwydd yr oedd y rhai hyn nid in unig syrn o flynyddoedd, eithr syrn o oeseu cyn clywed gair son am henweu Luther a Zuinglius. Nhwy a welsent, y pride hynny, ddarfod i amryfysedd ymlysco i‘r eglwys, ag oeddynt in chwennych cael dywygiad o honaw. Ag o ddoedyd y gwir, pa ryfeddod er bod yr Eglwys, yr amser hwnnw‘n enwedig, in lawn amryfyssedd, pride nad oedd na‘r Pab (ydoedd in dwyn yr holl rwysc ei hunan) na neb arall in gwneuthyr y petheu oeddynt ddyledus, nag y chwaith in gwybod beth oedd ddyledus iddynt ei wneuthyr. Prin y gellir coelio tree‘r oeddynt hwy‘n segyrllyd, fod diawl ynte hid yr amser hwnnw, ynaill ai‘n cyscu heb ddeffro, ai‘n segyr heb orchwyl. Eithr beth yr oeddynt arno in y cyfamser, ag mor ffyddlon yr oeddynt in gofalu am dy Dduw, er tewi onom-mi, etto gwrandawont Barnard eu cyfell nhwy eu hun.