A04462:126
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ag er i lawyer dybied ddarfod i Grist gymryd llwybr amgenach no‘g a gymerase Abraham a‘r hen Dadeu, a dwyn o honaw ef i blith y bobl ryw faith newydd ar grefydd, in ei enw ei hun, etto, ef a‘u hattebodd in uniawn: Pettech in coelio Moses, chwi am coeliech inn hefyd. Nid yw f'athrawiaeth i cyn newydded ag y rydych in ei chymeryd. Herwydd Moses yr Athro hynaf ei henafiaeth, i‘r hwn yr ych‘i, in rhoi coel am bob peth, efe, a fynegodd amdanaf fi. A S. Pawl a ddoedodd, er bod lawyer in barnu may peth newydd ydyw Efengyl Jesus Gristetto y mae genthi destiolaeth henaf y ddeddf, a‘r Prophwydi. And am eyn hathrawiaeth ni, (neu‘n hyttrach yr hon allwn ei galw‘n athrawiaeth gatholic Christ) y mae hi cym-mhelled oddi wrth newyddwch, a darfod i Dduw (yr hynaf o‘r cwbl) a thad eyn harglwydd Jesus Grist, ei gadel hi ‘ni in yr Efengyl, ag in llyfreu‘r Prophwydi a‘r Apostolion, ⟨image 67⟩yr rhai sydd uchel-fraint holl henafiaeth. A chan hynny, ni ddichyn neb bellach dybied may newydd yw‘n hathrawiaeth ni, oddieithr y neb a dybio fod ffydd y Prophwydi, ar Efengyl, a Christ ei hun in newydd. Os yw eu crefydd nhwy o gymaint a chyhyd henafiaeth, ag y mynnen-nhwy i‘r bid goelio, pa ham ynte nad ydyn-nhwy‘n profi hynny‘n wir, drwy sampleu‘r Brif-eglwys, a‘r hen Dadeu, a‘r cymanfa-Gynghorau o henafiaeth gynt? Pa ham y mae achos cyn hyned in aros gyhyd in y llwch heb ddadleuydd? yr oedd tan, a dur a hayarn, genthynt garllaw‘n oestadol, eithr am yr hen Gymanfa-Gynghorau, a‘r Tadeu, mawr yw‘r gosteg. In wir▪ anrhessymmol jawn y gwnaethont ddechreu a‘r moddion llidiog creulon hyn, pe y medrassent gael ffyrdd eraill a fuase howsach, a hynowsach eu trammwy. Ag os ydynt o ddifri in bwrw cymaint hither ar lyfreu henafiaeth, pa ham ofewn y chydig o flynddoedd a aeth heibio, y darfu i Joan Clement gwr o‘n gwlad ni, yngwydd gwyr da, a ddylent gael ei coelio, rwygo a bwrw ir tan syrn o ddolennau allan o lyfr Theodoretus un o‘r Tadeu o henafiaeth ag Escob ing-Greçia, in yr hyn ddolenneu yr oedd yr Escob in dangos in eglur, ag ⟨p. 61⟩in dyscu i ddynion in hyffordd, nad ydyw naturiaeth y bara in y Cummun in mind ymaeth, nag in diflannu? A hynny a wnaeth Joan Clement gan dybied nad oedd un copy arall o lyfr Theodoretus onid hwnnw‘n unig. Pa ham y doedodd Albertus Pighius, 1ddarfod i‘r hen Dad Awstin dybied ar gam ynghylch pechod gwreiddiol?