A04462:130
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Yr hen Gymanfa-Gyngor Gangrense sy‘n peri na wnelo neb y faith ragoriaeth rhwng offeiriad priodol, ag amhriodol, a bod iddo dybied fod ynaill o ran amhriodoldeb ⟨p. 63⟩in sancteiddiolach no‘r llall. Eithr y mae‘r gwyr hyn in gwneuthyr cymaint rhagoriaeth, a bod onynt in tybied in y man, ddarfod dwyno eu holl sanctaidd wasanaeth, os gwr duwiol priod a fydd in ei gylch ef.1 Yr hen Ymerodr Justinian a orchmynnodd draethu pob peth in y gwasanaeth bendigaid, a llaferydd rhwydd, uchel, llathraidd, megis y gall‘r bobl dderbyn ffrwyth o honaw. Nhwytheu, fall na allo‘r bobl ddim o‘u dealld, nid in unig sissial eu gwasanaeth y maent mewn llaferydd issel afrwydd, namyn hefyd mewn jaith ddieithr ddi-ddealld. Yr hen Gymanfa-Gyngor yngh Carthago a orchmynnodd na ddarllennyd dim ynghynlleidfa Christ onid y Scrythurau glan canonedig:2 eithr darllen y mae‘r gwyr hyn in eu heglwysi, y petheu y gwyddant hwy eu hunain may celwyddeu a choeg chwedleu ydynt.
Yr hen Gymanfa-Gyngor Gangrense sy‘n peri na wnelo neb y fath ragoriaeth rhwng offeiriad priodol, ag amhriodol, a bod iddo dybied fod ynaill o ran amhriodoldeb ⟨p. 63⟩yn sancteiddiolach no‘r llall. Eithr y mae‘r gwyr hyn yn gwneuthyr cymaint rhagoriaeth, a bod onynt yn tybied yn y man, ddarfod dwyno eu holl sanctaidd wasanaeth, os gwr duwiol priod a fydd yn ei gylch ef.1 Yr hen Ymerodr Iustinian a orchmynnodd draethu pob peth yn y gwasanaeth bendigaid, a llaferydd rhwydd, vchel, llathraidd, megis y galle‘r bobl dderbyn ffrwyth o honaw. Nhwytheu, fal na allo‘r bobl ddim o‘u dealld, nid yn vnig sissial eu gwasanaeth y maent mewn llaferydd issel afrwydd, namyn hefyd mewn iaith ddieithr ddi-ddealld. Yr hen Gymanfa-Gyngor yngh Carthago a orchmynnodd na ddarllennyd dim ynghynlleidfa Crist onid y Scrythurau glan canonedig:2 eithr darllen y mae‘r gwyr hyn yn eu heglwysi, y petheu y gwyddant hwy eu hunain may celwyddeu a choeg chwedleu ydynt.