A04462:143
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Anhyfryd ydoedd byw ynddi heb yr Efengyl, heb oleuni, heb ddiddanwch in y bid.
Anhyfryd ydoedd byw ynddi heb yr Efengyl, heb oleuni, heb ddiddanwch yn y byd.
Wrth hynny, er bod in erwin genthynt ddarfod i ni ymado a nhwy, etto hwy a ddylent ystyrio mor gyfiawn ydoedd yr achos a wnaeth i ni ymadel. O doedannhwy ⟨image 78⟩nad rhydd mewn mod in y bid i neb adel y gymdeithas lle y dycpwyd ef y finny; nhwy a allant felly in eyn cyscod ni gondemnio ‘r Prophwydi, a ‘r Apostolion, a Christ ei hun. Canys pam na achwynant hwy hyn hefyd, fined Lot allan o Sodom, fined Abraham ymmaeth o wlad Chaldea, fined yr Hebraeaid allan o‘r Aipht, fined Christ oddi wrth yr Iddewon, a mined Pawl oddi wrth y Pharisaeaid? Herwydd oni ddichyn bod achos cyfiawn i neb ymadel (na chynt na chwedi) ni welwn-ni resswm pam na ellir cyhuddo Lot, Abraham, yr Hebreaeaid, Christ, a Phawl Abostol, o gynnwrf a gwyr-bleidiaeth in gystal ag eraill.
Wrth hynny, er bod yn erwin genthynt ddarfod i ni ymado a nhwy, etto hwy a ddylent ystyrio mor gyfiawn ydoedd yr achos a wnaeth i ni ymadel. O doedannhwy ⟨image 78⟩nad rhydd mewn modd yn y byd i neb adel y gymdeithas lle y dycpwyd ef y fyny; nhwy a allant felly yn eyn cyscod ni gondemnio ‘r Prophwydi, a ‘r Apostolion, a Christ ei hun. Canys pam na achwynant hwy hyn hefyd, fyned Lot allan o Sodom, fyned Abraham ymmaeth o wlad Caldea, fyned yr Hebraeaid allan o‘r Aipht, fyned Crist oddi wrth yr Iddewon, a myned Pawl oddi wrth y Pharisaeaid? Herwydd oni ddichyn bod achos cyfiawn i neb ymadel (na chynt na chwedi) ni welwn-ni resswm pam na ellir cyhuddo Lot, Abraham, yr Hebreaeaid, Crist, a Phawl Abostol, o gynnwrf a gwyr-bleidiaeth yn gystal ag eraill.