A04462:137
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Pa ddelw ynte y gellir eu coelio nhwy in llyfreu‘r Tadeu, in yr hen Gynghorau, ag in y Geirieu a ddoedodd Duw ei hun? Nid oes genthynt (O Dduw dayonus) nid oes genthynt, mor petheu y maent in gwneuthyr cymaint rhodres in eu cylch: Nid oes genthynt na henafiaeth, nag ⟨image 73⟩ollawl-feddiannaeth, na chwaith cyttundeb holl wledydd ag amseroedd. Ag er eu bod nhwy in chwennych cymryd arnynt, etto nhwy a wyddant hyn in ddigon hysbys; je ag ni russant hwy weithieu gyfaddef cymaint a hyn in gyhoeddedig. Ag o ran hyn y doedant am reithieu‘r hen Gymanfa-Gynghoreu a‘r hen Dadeu, nad ydynt amgenach, nas gellir eu newid weithie, ag mae rhaid wrth amryw ordinhâd bob amryw amser in yr Eglwys. Dymma i chwi fall y maen-nhwy‘n chware mic ymguddio dan enw‘r Eglwys, ag in twyllo‘r truain-gwerin drwy goeg rithio. A rhyfedd ydyw fod pobl, y nail ai mor ddall na welant hyn, ai ynte mor ddioddef-gar os ydynt in gweled, a gallu onynt cyn llonydded gyd-ddwyn ar cwbl.
Pa ddelw ynte y gellir eu coelio nhwy yn llyfreu‘r Tadeu, yn yr hen Gynghorau, ag yn y Geirieu a ddoedodd Duw ei hun? Nid oes genthynt (O Dduw dayonus) nid oes genthynt, mor petheu y maent yn gwneuthyr cymaint rhodres yn eu cylch: Nid oes genthynt na henafiaeth, nag ⟨image 73⟩ollawl-feddiannaeth, na chwaith cyttundeb holl wledydd ag amseroedd. Ag er eu bod nhwy yn chwennych cymryd arnynt, etto nhwy a wyddant hyn yn ddigon hysbys; ie ag ni russant hwy weithieu gyfaddef cymaint a hyn yn gyhoeddedig. Ag o ran hyn y doedant am reithieu‘r hen Gymanfa-Gynghoreu a‘r hen Dadeu, nad ydynt amgenach, nas gellir eu newid weithie, ag mae rhaid wrth amryw ordinhâd bob amryw amser yn yr Eglwys. Dymma i chwi fal y maen-nhwy‘n chware mic ymguddio dan enw‘r Eglwys, ag yn twyllo‘r truain-gwerin drwy goeg rithio. A rhyfedd ydyw fod pobl, y naill ai mor ddall na welant hyn, ai ynte mor ddioddef-gar os ydynt yn gweled, a gallu onynt cyn llonydded gyd-ddwyn ar cwbl.
Eithr lle y darfu iddynt berry adel ymmaeth y rheithieu a‘r trefnadeu uchod fall petheu di-rymmus wedi gormod heneiddio, nid hwyrach ossod onynt in lle‘r rheini, ray eraill gwell a chymwysach ar less dynion. Eu harfer nhwy yw doedyd, pet Grist a‘r Apostolion eilwaith in fyw, na ellent lywodraethu‘r Eglwys in well neu‘n dduwiolach, nog yw eu llywodraeth nhwy yr amser sydd oni yrowr‘on. And nhwy a ossodasant in lle‘r