A04462:150
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
E ddarfu i ni ddwyn drach-gefn Swpper yr Arglwydd i ordinhâd Christ, ag a fynnwn fod y Cymmun, in ol yr henw priod, (gymaint fwya ag a aller) in gyffredin ag in gyfrannedig i lawyer jawn o bobl ar unwaith. Nhwythau in-nerbyn ordinhaad Christ, a newidiasant y cwbl, gan wneuthyr offeren neulltuol o‘r Cymmun cyssegr-lan: ag in y mod hyn rydymmi ‘n rhoi gwir Swpper yr Arglwydd i‘r bobl; a nhwytheu‘n rhoi iddynt goeg degan i edrych arno. Doedyd yr rim-mi (gyda thadeu ‘r henafiaeth) nad yw ‘n bwyta corph Christ onid y rhai ffyddlon, y sawl a ⟨image 80⟩gynnyscaeddwyd ag yspryd Christ. Eithr eu hathrawiaeth nhwy o‘r tu arall, ydyw, na ddichyn in unig yr rhai echryslawn, anffyddlon, fwyta gwir gorph Christ in ddeunyddiawl, ag in sylweddawl, (fall y doedan-nhwy;) namyn hefyd (peth erchyll iw adrodd) y dichyn cwn a llygod fwyta‘r un rhyw gorph in yr un mod.
E ddarfu i ni ddwyn drach-gefn Swpper yr Arglwydd i ordinhâd Crist, ag a fynnwn fod y Cymmun, yn ol yr henw priod, (gymaint fwya ag a aller) yn gyffredin ag yn gyfrannedig i lawer iawn o bobl ar vnwaith. Nhwythau yn-nerbyn ordinhaad Crist, a newidiasant y cwbl, gan wneuthyr offeren neulltuol o‘r Cymmun cyssegr-lan: ag yn y modd hyn rydymmi ‘n rhoi gwir Swpper yr Arglwydd i‘r bobl; a nhwytheu‘n rhoi iddynt goeg degan i edrych arno. Doedyd yr rym-mi (gyda thadeu ‘r henafiaeth) nad yw ‘n bwyta corph Crist onid y rhai ffyddlon, y sawl a ⟨image 80⟩gynnyscaeddwyd ag yspryd Crist. Eithr eu hathrawiaeth nhwy o‘r tu arall, ydyw, na ddichyn yn vnig yr rhai echryslawn, anffyddlon, fwyta gwir gorph Crist yn ddeunyddiawl, ag yn sylweddawl, (fal y doedan-nhwy;) namyn hefyd (peth erchyll iw adrodd) y dichyn cwn a llygod fwyta‘r vn rhyw gorph yn yr vn modd.
Gweddio rydym-mi‘n yr Eglwysi, in-ol archiad S. Pawl, 1fall y gallo‘r bobl ddealld beth y bom-mi‘n ei weddio, ag atteb Amen drwy gyffredin gyttundeb. And y gwyr hyn, fegis tongcio pres, ydynt in swnnial in eu heglwysi nhwy eirieu dieithr anghydnabyddus, heb wybodaeth, heb ysturiaeth, heb ddyst, heb dawn; a hyn y maen-nhwy arno o‘r gwir gwaith ddioddef fall na chaffo ‘r bobl ddealld un gronyn.