A04462:155
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In wir, nid ydym-mi ‘n dirmygu cynghorau, na chymanfaeu, na chyd-ddadlevau Escobion a gwyr dyscedig; ag ni ddarfu i ni wneuthyr, y chwaith, mo‘r hyn a wnaethom, in ollawl heb Escobion, a heb Gyngor. E ddarfu drwy her ymgynghori gwbl-ddadleu am yr achos mewn Parliament lluosawg ag mewn cyflawn ⟨image 82⟩Gymanfa. And am y Gymanfa-Gyngor y mae‘r Pab Pius in cymeryd arno ei dyfyn yr amser hwn, lle yr ydis in *evogfarnu, mor ebrwydd, yr rhai ni chowsant na‘u galw, na‘u gweled, na‘u clywed; hawdd yw dychymig beth a ellir edrych amdano, a pheth sydd iw obaith o‘r faith Gyngor.
Yn wir, nid ydym-mi ‘n dirmygu cynghorau, na chymanfaeu, na chyd-ddadleuau Escobion a gwyr dyscedig; ag ni ddarfu i ni wneuthyr, y chwaith, mo‘r hyn a wnaethom, yn ollawl heb Escobion, a heb Gyngor. E ddarfu drwy hir ymgynghori gwbl-ddadleu am yr achos mewn Parlament lluosawg ag mewn cyflawn ⟨image 82⟩Gymanfa. Ond am y Gymanfa-Gyngor y mae‘r Pab Pius yn cymeryd arno ei dyfyn yr amser hwn, lle yr ydis yn *euogfarnu, mor ebrwydd, yr rhai ni chowsant na‘u galw, na‘u gweled, na‘u clywed; hawdd yw dychymig beth a ellir edrych amdano, a pheth sydd iw obaith o‘r fath Gyngor.
- *condemnio.
Pan welodd Nazianzen gynt in y faith Gymanfaeu a‘r rhain, fod gwyr mor ddall ag mor gyndyn, a chwedi ymroi cymaint iw meddylieu eu hun, may ceilio gorfod yr oeddynt, chwaethach na cheisio‘r Gwirionedd▪ ef a draethodd in gyhoeddedig na welse fo er joed ddiben dayonus o un o‘r Cymanfa-Gynghorau. Beth a ddoede fo pe bas ef fyw in yr amser ymma, wrth ganfod, a gwybod, trin a dichellion y gwyr hyn? Herwydd, er bod calyn pleidiau y pride hynny, etto yr oeddid in gwrando achos pob plaid, ag in gwrthladd amryfyssedd hynod pob plaid, drwy eiriol fodd a bodlondeb pawb. Y gwyr hyn, nhwythau, ni fynnant na bod in rhydd dwyn yr achos i fewn dadl, na chwaith newid dim amryfyssedd er maint fyddo.