A04462:156
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Pan welodd Nazianzen gynt in y faith Gymanfaeu a‘r rhain, fod gwyr mor ddall ag mor gyndyn, a chwedi ymroi cymaint iw meddylieu eu hun, may ceilio gorfod yr oeddynt, chwaethach na cheisio‘r Gwirionedd▪ ef a draethodd in gyhoeddedig na welse fo er joed ddiben dayonus o un o‘r Cymanfa-Gynghorau. Beth a ddoede fo pe bas ef fyw in yr amser ymma, wrth ganfod, a gwybod, trin a dichellion y gwyr hyn? Herwydd, er bod calyn pleidiau y pride hynny, etto yr oeddid in gwrando achos pob plaid, ag in gwrthladd amryfyssedd hynod pob plaid, drwy eiriol fodd a bodlondeb pawb. Y gwyr hyn, nhwythau, ni fynnant na bod in rhydd dwyn yr achos i fewn dadl, na chwaith newid dim amryfyssedd er maint fyddo.
Pan welodd Nazianzen gynt yn y fath Gymanfaeu a‘r rhain, fod gwyr mor ddall ag mor gyndyn, a chwedi ymroi cymaint iw meddylieu eu hun, may ceilio gorfod yr oeddynt, chwaethach na cheisio‘r Gwirionedd▪ ef a draethodd yn gyhoeddedig na welse fo er ioed ddiben dayonus o vn o‘r Cymanfa-Gynghorau. Beth a ddoede fo pe bas ef fyw yn yr amser ymma, wrth ganfod, a gwybod, trin a dichellion y gwyr hyn? Herwydd, er bod calyn pleidiau y pryd hynny, etto yr oeddid yn gwrando achos pob plaid, ag yn gwrthladd amryfyssedd hynod pob plaid, drwy eiriol fodd a bodlondeb pawb. Y gwyr hyn, nhwythau, ni fynnant na bod yn rhydd dwyn yr achos i fewn dadl, na chwaith newid dim amryfyssedd er maint fyddo.
Canys eu harfer nhwy ydyw ffrostio in ddigwilydd na ddichyn eu heglwys nhwy syrthio mewn amryfyssedd; nad oes ddim ⟨p. 76⟩bay ynthi; ag nad rhaid iddynt roi‘r goreu i ni mewn dim. Neu, od oes fai, yr Escobion a‘r Abbadeu a ddylent fod in farnwyr arno; oblegid nhwy piau cyf-uniowni achossion, a hwynt-hwy ydynt Eglwys Dduw. Medd Aristoteles ni ddichyn dinas fod o blant gordderch: Eithr pwy un a wna Eglwys Dduw ai gallu bod o‘r gwyr hyn ai peidio, ystyriont hwy hunain. Diau, nad yw‘r Abbadau gyfreithlawn Abbadau: na‘r Escobion, chwaith, Escobion naturiol. And nhwynt hwy yw ‘r Eglwys; gedwch i hynny fod: Gwrandawer nhwy in y Cynghorau, bydded genthyn-nhwy ‘n unig, awdurdod wrth ddadl i wneuthyr a fynnont: Etto‘n yr hen amser pan oedd Eglwys Dduw ‘n cael ei choledd a‘i llywodraethu ‘n dda jawn, (o chystedlir hi a ‘u heglwys nhwy) yr oeddid (medd Ciprianus) in galw henuriaid, a Diaconiaid, a syrn o ‘r cyffredin bobl hefyd, ag in eu gwneuthyr nhwy ‘n gydnabyddus ag achossion eglwysig.