A04462:145
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ag od yw‘r gwyr hyn in mynny‘n bwrw ni ‘n Hereticiaid, er mwyn nad ydym in gwneuthyr pob peth wrth eu harchiad nhwy: Pwy, (er Duw) pa ray, neu pa faith ddynion a ddylent hwy hunain gael eu gadel, sy‘n dirmygu gorchmynnion Christ a‘r Apostolion? Od ydym-mi Sçismaticiaid oblegid ddarfod i ni eu gadel nhwy; gerfydd pa henw ynte y gelwir nhwy hunain a ddarfu iddynt ymadel a‘r Groegiaid, (gan y rhai y cowsont hwy eu ffydd gyntaf) ymadel a‘r Brif-Eglwys, â Christ ei hun, ag â‘r Apostolion, ⟨p. 72⟩fall yr y madawe plant au tadau ag a‘u mammeu? Canys am y Groegiaid, heddyw, sy‘n cyfadde crefydd ag enw Christ: er bod lawyer peth wedi llugru ‘n eu plith nhwy, etto y mae genthynt, sith, ran fawr o‘r hyn a gowsant gan yr Apostolion. Nid oes genthyn-nhwy na fferenneu neulltuol, na Sacramenteu wedi darngwttogi, na Phurdan, na Phardyneu chwaith.
Ag od yw‘r gwyr hyn yn mynny‘n bwrw ni ‘n Hereticiaid, er mwyn nad ydym yn gwneuthyr pob peth wrth eu harchiad nhwy: Pwy, (er Duw) pa rai, neu pa fath ddynion a ddylent hwy hunain gael eu gadel, sy‘n dirmygu gorchmynnion Crist a‘r Apostolion? Od ydym-mi Sçismaticiaid oblegid ddarfod i ni eu gadel nhwy; gerfydd pa henw ynte y gelwir nhwy hunain a ddarfu iddynt ymadel a‘r Groegiaid, (gan y rhai y cowsont hwy eu ffydd gyntaf) ymadel a‘r Brif-Eglwys, â Christ ei hun, ag â‘r Apostolion, ⟨p. 72⟩fal yr y madawe plant au tadau ag a‘u mammeu? Canys am y Groegiaid, heddyw, sy‘n cyfadde crefydd ag enw Crist: er bod llawer peth wedi llugru ‘n eu plith nhwy, etto y mae genthynt, fyth, ran fawr o‘r hyn a gowsant gan yr Apostolion. Nid oes genthyn-nhwy na fferenneu neulltuol, na Sacramenteu wedi darngwttogi, na Phurdan, na Phardyneu chwaith.
Am stiloedd goruch-Escobion a‘r faith henweu▪ frost-feilchion, y mae cymaint search genthynt i‘r rheini, a phwy bynnag fydde a gymre arno ‘r cyfryw henwau, gan berry ei alw nag in Escob goruchaf trwy ‘r holl fyd, nag in ben a‘r yr holl Eglwys; ni russent hwy ddoedyd amdano, ei fod ef in din balch anianol, trahaus in-nerbyn ei frodyr yr Escobion eraill, ag in Heretic cynhwynol.