A04462:163
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Eithr beth meddwch, os yw dadleyddion y Pab, a‘i Abbadeu, a‘i Escobion, in ddiragrith wedi ym-ddangos in gwbl-elynion i‘r Efengyl, heb finny gweled mo‘r peth a welant, gan wneuthyr traws-amharch i‘r Scrythurau glan? A‘u bod nhwy wrth welled a gwybod, in llugru, ag in llwyr ddiwyno gair Duw, gan gam-droi a dirnad i‘r Pab drwy annuwiol weniaith y petheu a ddoetpwyd in ddiau, ag in briodol jawn, am Grist ei hun, ag ni ellir mewn mod in y bid ddevalld m‘onynt am neb arall? Beth o doedant may‘r Pab yw pob peth in ollawl,1 ag uwch ben yr holl betheu? Neu allu onaw ef wneuthyr pob peth ag allo Christ: ag may‘r un farn-eisteddfa, a‘r un Gynghorfa sydd ir Pab ag i Grist? Neu may‘r Pab yw‘r Goleuni hwnnw a ddeve i‘r bid? Yr hyn eirieu a lafarodd Christ amdano‘i hun in unig; a hefyd may drwg weithredwr yw pwy bynnag a gilio, gan ochel y goleuni hwnnw? Neu, ddarfod i‘r holl Escobion eraill dderbyn o gyflownder y Pab? Ar ⟨p. 79⟩fir o eirieu, beth o gwnant hwy reithieu a deddfau in gwbl wrthwyneb i wir air Duw, a hynny, nid in guddiedig, eithr in gyhoeddedig ag in amlwg: etto, ai anghenrhaid ydyw, in y man, may Efengyl yw beth bynnag a ddoetto‘r gwyr hyn? Ai nhwy ydyw llu Duw? Neu a fydd Christ in eu plith nhwy yno gar-law? A leinw‘r Yspryd glan in eu tafodeu nhwy, neu allant hwy ddoedyd in ddi-ffuc, Yr yspryd glan a nine a dybiassom fall hyn? In wir, ni russodd Petrus a Soto, 2a‘i gydymaeth Hosius ddoedyd fod Yspryd Prophwydoliaeth, a‘r Yspryd glan, ag Yspryd y Gwirionedd, gan y Cyngor hwnnw in yr hwn i barnwyd Christ iw farfolaeth. Ag nadir un o‘r ddau, nag anwir, nag offer chwaith, oedd, y peth a ddoedodd yr Escobion hynny, Y mae gennym-mi Gyfraith, ag wrth y Gyfraith honno ef a ddyle farw; a darfod iddynt wrth ddoedyd hynny farnu gwirionedd y farnedigaeth. Herwydd felly medd Hosius, ag may barn gwbl-gyfiawn oedd yr hon a rowsont gan lefaru fod Christ in haeddu marwolaeth. Y mae‘n rhyfedd, dybygwn‘i, na ddichyn y gwyr hyn ddoedyd drostynt eu hun, ag ymddyffyn eu hachos, and rhaid iddynt hefyd gymryd plaid gyda‘g Annas a Chaiphas. Canys y rhai a ⟨image 86⟩[…] ⟨p. 79⟩[…] ⟨image 87⟩