A04462:153
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
And, yscatfydd, nhwy a ddoedant nad rhydd oedd i ni gychwyn yr helynt hon, heb gyfarch Cymanfa a chyssegr-Gyngor, in yr hyn y mae holl rim yr Eglwys: a darfod i Grist ado y bid ef gymmorth a chanorthwy in y cyfryw gynnulleidfa. Ag etto nhwy hunain heb aros am Gymanfa-gyngor, a dorrasant orchmynion Duw, a deddfodeu ‘r Apostolion. Ag fall y doedasom-mi ⟨image 81⟩o‘r blaen, nhwy a anrheithiassant agos holl reithieu, ag a ddwynasont athrawiaeth y Brif-Eglwys.
Ond, yscatfydd, nhwy a ddoedant nad rhydd oedd i ni gychwyn yr helynt hon, heb gyfarch Cymāfa a chyssegr-Gyngor, yn yr hyn y mae holl rym yr Eglwys: a darfod i Grist addo y bydde ef gymmorth a chanorthwy yn y cyfryw gynnulleidfa. Ag etto nhwy hunain heb aros am Gymāfa-gyngor, a dorrasant orchmynion Duw, a deddfodeu ‘r Apostolion. Ag fal y doedasom-mi ⟨image 81⟩o‘r blaen, nhwy a anrheithiassant agos holl reithieu, ag a ddwynasont athrawiaeth y Brif-Eglwys.
Lle y maen-nhwy ‘n doedyd, nad rhydd gwneuthyr newidiad heb Gymanfa-Gyngor, pwy a wnaeth i ni‘r cyfryw gyfreithieu? Neu, o ba fan y cawd hyn o orchymyn? Digon ffol oedd ben y brenin Agesilaus, 1wedi cael o honaw atteb cyflawn beth ydoedd meddwl ag ewyllys Jupiter alluawg; pan ae fo drach-gefn at Apollo am yr un achos, i ofyn ydoedd ef o‘r un meddwl a‘i dad. Eithr ffolach o lawyer fydde‘n penneu ni, os ar ol i ni glywed Duw ei hun in doedyd in ddigon rhwydd wrthym in y Scrythurau glan, lle y gallom gael lawn ddealld o‘i feddwl a‘i ewyllys ef; od aem-mi ar-ol-law (fegis na bae hyn in talu dim) i geisio treio‘n hachos geyr-bron Cymanfa-Gyngor: yr un agwedd a phe baem-mi‘n gofyn i ddynion ai cymwys (dybygen-nhwy) yw ‘r peth y mae Duw‘n ei dybied in gymwys; Neu, ofyn ai gwiw gan ddynion, drwy eu hawdurdod nhwy, wneuthyr gorchmynion Duw‘n gymeradwy. Pam, y dolwg, ai nid Gwir ydyw‘r gwir, neu nid Duw ydyw Duw, oddieithr i‘r Cymanfa-Gyngor finny erchi hynny? Pe y buase Grist in Darpar y