A04462:159
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Weal, etto, nhwy a fynnant ddwyn pôb peth geyr bron y Pab, yr hwn ni ddichyn gam-gymryd dim. In gyntaf, llymma ynfydrwydd mawr yw hyn, dybied fod yr Yspryd glan in hedeg in gyflym o‘r Cymanfa-Gyngor i Rufain, fegis o bae ef in ammeu, neu‘n rhusso mewn dim, y gall ef gymryd cyngor gan ni wn i pa yspryd arall a fae a mwy o disc gantho nog ef. Herwydd, os felly y mae‘r helynt, pa raid fuase i gynnifer o Escobion drwy gymaint o draul, a chyhyd teithiau, gynnyll Cymanfa ‘r pride hyn in-nhref Tridentum? Synhwyrolach, a gwell fuase, neu ynte byrrach, a chymwysach fuase, ddwyn y cwbl geyr-bron y Pâb, a mined in union deg, i geisio atteb a chyngor gan ei ddwyfron fendigaid ef. In ail peth, anghyfiownder mawr ydyw coethi‘n hachos ni ⟨p. 77⟩oddi wrth cynnifer o Escobion, ag Abbadeu a‘i ddwyn o‘r diwedd i gael ei dreio geyr bron un *gwr in unig; yr hwn wr, in enwedig, a ddarfu i ni ei gyhuddo o ddrygcampeu erchyll, ag y mae ef etto heb atteb i‘r hawl: yr hwn wr hefyd, sydd wedi ‘n bwrw ni ‘n evog (heb farn gyfreithlon) cyn cael onom na‘n galw, na‘n gwrando.
Wele, etto, nhwy a fynnant ddwyn pôb peth geyr bron y Pab, yr hwn ni ddichyn gam-gymryd dim. Yn gyntaf, llymma ynfydrwydd mawr yw hyn, dybied fod yr Yspryd glan yn hedeg yn gyflym o‘r Cymanfa-Gyngor i Rufain, fegis o bae ef yn ammeu, neu‘n rhusso mewn dim, y galle ef gymryd cyngor gan ni wn i pa yspryd arall a fae a mwy o ddysc gantho nog ef. Herwydd, os felly y mae‘r helynt, pa raid fuase i gynnifer o Escobion drwy gymaint o draul, a chyhyd teithiau, gynnyll Cymanfa ‘r pryd hyn yn-nhref Tridentum? Synhwyrolach, a gwell fuase, neu ynte byrrach, a chymwysach fuase, ddwyn y cwbl geyr-bron y Pâb, a myned yn vnion deg, i geisio atteb a chyngor gan ei ddwyfron fendigaid ef. Yn ail peth, anghyfiownder mawr ydyw coethi‘n hachos ni ⟨p. 77⟩oddi wrth cynnifer o Escobion, ag Abbadeu a‘i ddwyn o‘r diwedd i gael ei dreio geyr bron vn *gwr yn vnig; yr hwn wr, yn enwedig, a ddarfu i ni ei gyhuddo o ddrygcampeu erchyll, ag y mae ef etto heb atteb i‘r hawl: yr hwn wr hefyd, sydd wedi ‘n bwrw ni ‘n euog (heb farn gyfreithlon) cyn cael onom na‘n galw, na‘n gwrando.