A04462:172
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1Brenin Solomon a adailadodd i‘r Arglwydd y deml a amcanase ei Dad Dafydd ei hadail: a chwedi gorphen y deml, ef a ⟨p. 85⟩draethodd ymadrodd odidawg geyr bron y bobl ynghylch gwir grefydd a gwasanaeth Dduw;2 wedi hynny ef a symmydodd ymaeth yr offeiriad Abiathar, ag a ossododd Sadoc in ei le ef. Ar ol hyn, wedi darfod halogi ‘r deml in warthus ag in wradwyddus, drwy ddiffeithwch ag esceulustra ‘r offeiriaid; yna,3 Brenin Hezekiah a orchmynnodd ei glanhau eilwaith, a dwyn allan o honey yr holl sothach a‘r brynti: gan berry i‘r offeiriaid olevo canhwyllau, llosci arogl-dearth, a thrin y cyssegr-wasanaeth in ol yr hen ddeddfod: Hefyd, e barodd y Brenin hwnnw dynny i lawr a malurio ‘r Sarph bres i‘r hon yr oedd y bobl in gwneuthur addoliaeth annuwiol.4 Brenin Jehoshaphat a dynnodd i lawr ag a dorrodd yr uchelfeudd, a‘r llwynau;5 drwy‘r hyn y canfu ef rwystro gwasanaeth Duw, a dal y bobl drach eu cefneu mewn camgrediniaeth neulltuol, oddi wrth y deml gyffredin yr hon oedd ing Haer-Selem: i‘r hwn le yr oedd in ddyledus arnynt dramwyo bob blwyddyn o bob man o‘r deyrnas. Brenin Josiah drwy ddyfal astudrwydd a ddygodd a‘r gof i‘r offeiriaid a‘r Escobion eu dyledus swydd.6 Brenin Johas a wrthladdodd drythyllwch a goruch-falchder yr offeiriaid bwyteig.7 Brenin Jehu a ddihenyddiodd ⟨image 93⟩y Prophwydi annuwiol. Ag o wneuthyr pen a‘r ddwyn sampleu o‘r Scrythurau glan, ninny a‘styriwn pa wed er pan anwyd Christ y cafodd yr Eglwys ei llywodraethu in amser yr Efengyl. Yr Ymerodreu Cristnogawl a ddyfynnent Gymanfa-Gynghorau o‘r Escobion gynt. Constantinus a ddyfynnodd Gymanfa-Gyngor in Niçea; Theodosius y cyntaf, a alwodd y Cymanfa-Gyngor ing-Constantinopl; Theodosius yr ail, a ddyfynnodd y Gymanfa-Gyngor in Ephesus; Martianus a alwodd y Gymanfa-Gyngor yngh Calçedonia. A phan adroddodd Ruffinus yr heretic Senedd neu Gymanfa-Gyngor, yr hon dygase efe ydoedd in pwyso ar ei du ef, yna y doede Hieronimus iw wrthwynebu ef fall hyn; Mynega (heb‘r ef) pa‘r Ymerodr a orchmynnodd galw neu ddyfyn y Gymanfa-Gyngor honno? Yr un Hieronimus ym-Marwnad Paula, sy‘n crybwyll am lythyreu ‘r Ymerodreu yr rhai oeddynt in gorchymyn dyfyn Escobion Graeçia ag Italia i Gymanfa-Gyngor in Rhufain. In wastad, yngod pum can mylynedd, yr Ymerodr in unig oedd in peri galw a dyfyn Cymanfaeu Eglwysig ag in hynodi Cynghoreu Escobion.