A04462:161
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Bid felly wrth hynny, moeswch fod Pâb Rhufain in unig in uwch no‘r Cymanfa-Gynghorau; self yw hynny, gedwch fod un dernyn in fwy no‘r cwbl; moeswch fod onaw ef in alluoccach, ag in ddoethach na‘r holl blaid o‘r eiddo. Ag in-nerbyn gwaethaf i Hieronimus, 1moeswch fod awdurdod (Rhufain) un ddinas, in fwy nog awdurdod yr holl fyd. Beth, ynte, os y Pab ni wyr oddi wrth hyn; ag na ddarllennodd ef er joed na‘r Scrythurau glan, na llyfreu‘r hen Dadeu, na‘r Cynghorau o ‘r eiddo ‘i hun chwaith? Beth o bid ef in dal gyda ‘r Arrianaid fall yr oedd y Pâb Liberius gynt? Neu ‘i fod ef a meddwl erchyll gantho ⟨p. 78⟩in tybied in frwnt anheilwng o ‘r bywyd a ddaw, ag o ddi-farwolaeth yr eneidieu, fall yr oedd Pâb Joan, in tybied, o fewn yr ychydig o flynyddoedd aeth heibio?
Bid felly wrth hynny, moeswch fod Pâb Rhufain yn vnig yn vwch no‘r Cymanfa-Gynghorau; sef yw hynny, gedwch fod vn dernyn yn fwy no‘r cwbl; moeswch fod onaw ef yn alluoccach, ag yn ddoethach na‘r holl blaid o‘r eiddo. Ag yn-nerbyn gwaethaf i Hieronimus, 1moeswch fod awdurdod (Rhufain) vn ddinas, yn fwy nog awdurdod yr holl fyd. Beth, ynte, os y Pab ni wyr oddi wrth hyn; ag na ddarllennodd ef er ioed na‘r Scrythurau glan, na llyfreu‘r hen Dadeu, na‘r Cynghorau o ‘r eiddo ‘i hun chwaith? Beth o bydd ef yn dal gyda ‘r Arrianaid fal yr oedd y Pâb Liberius gynt? Neu ‘i fod ef a meddwl erchyll gantho ⟨p. 78⟩yn tybied yn frwnt anheilwng o ‘r bywyd a ddaw, ag o ddi-farwolaeth yr eneidieu, fal yr oedd Pâb Ioan, yn tybied, o fewn yr ychydig o flynyddoedd aeth heibio?
- 1Hieron. ad Buagrium
Neu, o ran gallu onaw gynnyddu ei oruchafiaeth ei hun, beth os llugru a ffalsdroi a wna ef y Cynghorau eraill, fall y gwnaeth y Pâb Zosimus am y Cyngor Niçenum gynt, a doedyd ddarfod i‘r Tadeu sanctaidd wneuthyr ag ordeinio y petheu ni feddyliodd eu calonneu nhwy er joed? Hagar hither allu onaw ef gael lawn rwysc awdurdod, beth o chynnig ef gam a throwsedd i‘r Scrythurau glan megis (medd Camotensis) yr oedd Pabau Rhufain arfer o‘i wneuthyr in fynych? Beth o gwrthyd ef y ffydd Gristnogawl, a mind in apostate, fall y gwnaeth lawyer Pab, medd Liranus? Etto er hyn y gyd, ai tybied y daw‘r Yspryd glan in gyflym i daro ‘i ddwyfron ef, ag ennyn goleuni i ‘r Pab o ‘i anfodd; je, erbyn diolch iddo, fall na allo fo gam-gymryd na cham-wneuthyr? Ai efo, in y man, a fydd pen ffynnon yr uniownder? ag a geir holl drysor doethineb, a gwybodaeth yntho ef, wedi eu rhoi i gadw fegis mewn cist? Neu, os hyn