A04462:171
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Pam a dolwg, a ddichyn Annas a Chaiphas ddeald rhol a llywodraeth, ag ni ddichyn brenhin Dafydd, a brenhin Hezekiah? Ai rhydd i Gardinal a fo rhyfelwr ag in lawn chwant gwaed, eistedd mewn Cymanfa-Gyngor, ag nid ydyw rid i Ymerodr neu i Frenin Cristnogawl? Diau nad ydym-mi ‘n rhoi mwy rhydid ag awdurdod i‘n Pennaethiaid nog a wyddom fod wedi caniattau iddynt in y Scruthur lan, a hefyd wedi ei gadarnhau iddynt drwy sampleu ag arfer y llywodraethau cyffredin goref. Herwydd heblaw rhoddi o Dduw bob un o ddwy lech y Gorchmynnion dan ddwylaw bob Twysog ffyddlon, megis y gall efo ddealld fod in perthyny iw swydd ef, nid in unig achossion llyg, eithr hefyd petheu cyssegr eglwysig: heblaw hefyd fod Duw ‘n fynych drwy ei Brophwydi ‘n erchi ‘r Brenin, in anad dim, dory y llwynau, bwrw i lawr a dryllio delwau ag allorau‘r Eulunod; a scrifenny llyfr y ddeddf iddo ‘i hun: a heblaw doedyd o ‘r Prophwyd Isaiah may rhaid ir Brenhin fod in ymddiffynnwr ag in dad-maeth i‘r Eglwys: Heblaw hyn y gyd (medda ‘i) ni a welwn wrth ddarllen ystoriaeu a sampleu‘r amseroedd goref, ddarfod i bob Twysog duwiol ⟨image 92⟩er joed wneuthyr cyfri fod gwenidogaeth yr Eglwysi‘n berthynasol iw swydd ef. Moeses yr hwn ydoedd Bennadur llyg a thwyswr y bobl,1 a dderbynniodd gen Dduw, ag a ddododd i‘r bobl, yr holl drefn am Grefydd ag Abertheu: ag a rod gerydd hagr-dost i‘r Escob Aaron am wneuthyr y lo euraid ag am ddioddef llugru crefydd Dduw.2 Joshua hefyd, er nad ydoedd ef ddim amgen no Phennaeth llyg, etto hwyn gynta‘g y darfuafe i Dduw ei ddewis ef a‘i ossod in lywodraethwr ar y bobl, ef a gafodd orchmynnion in enwedig ynghylch crefydd a gwasanaeth Dduw.3 Ar ol darfod i frenhin Saul annuwiol wneuthyr llwyr ddifrod ar yr holl Grefydd, brenin Dafydd a ddygodd Arch Dduw adref drach-gefn; self yw hynny, ef a ail gododd i finny fraint crefydd; a heblaw fod o honaw ei hun in rhoi cyngor a chanhorthwy i hynny o waith, ef a wnaeth hefyd ag a ordeiniodd Psalmeu ag Odleu iw canu: ef a ossododd y teuluoedd mewn trefn; efo ‘i hun a luniodd yr holl wchder, ag ydoedd (in ei herwydd) in ben olygwr ar yr offeiriaid.
Pam a dolwg, a ddichyn Annas a Chaiphas ddeald rhol a llywodraeth, ag ni ddichyn brenhin Dafydd, a brenhin Ezechias? Ai rhydd i Gardinal a fo rhyfelwr ag yn llawn chwant gwaed, eistedd mewn Cymanfa-Gyngor, ag nid ydyw rydd i Ymerodr neu i Frenin Cristnogawl? Diau nad ydym-mi ‘n rhoi mwy rhydid ag awdurdod i‘n Pennaethiaid nog a wyddom fod wedi caniattau iddynt yn y Scruthur lan, a hefyd wedi ei gadarnhau iddynt drwy sampleu ag arfer y llywodraethau cyffredin goref. Herwydd heblaw rhoddi o Dduw bob vn o ddwy lech y Gorchmynnion dan ddwylaw bob Twysog ffyddlon, megis y galle efo ddealld fod yn perthyny iw swydd ef, nid yn vnig achossion llyg, eithr hefyd petheu cyssegr eglwysig: heblaw hefyd fod Duw ‘n fynych drwy ei Brophwydi ‘n erchi ‘r Brenin, yn anad dim, dorri y llwynau, bwrw i lawr a dryllio delwau ag allorau‘r Eulunod; a scrifenny llyfr y ddeddf iddo ‘i hun: a heblaw doedyd o ‘r Prophwyd Esay may rhaid ir Brenhin fod yn ymddiffynnwr ag yn dad-maeth i‘r Eglwys: Heblaw hyn y gyd (medda ‘i) ni a welwn wrth ddarllen ystoriaeu a sampleu‘r amseroedd goref, ddarfod i bob Twysog duwiol