A04462:184
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Herwydd ninny a wyddom fod arfer yr hen Dadeu o dreio ‘r ford ymma, cyn dyfod o honynt ir cyffredin Gymanfa-Gyngor o ‘r holl fyd. Y mae etto iw gweled y pride hyn̄ Reoledigaetheu scrifennedig in y Cymanfa-Gynghorau a gynhaliwyd in y dinassoedd rhyddion: nid amgen, in-ninas Carthago dan Cyprianus; in Ançyra; in Neoçaesaria; ing Gangria, a hefyd in-ninas Paphlagonia; a hynny, fall y mae rhai ‘n tybied, cyn clywed crybwyll in y bid am y gyffredin Gymanfa-Gyngor fawr in Niçea. Llymma ‘r mod gynt y cyferfyddid in ebrwydd a ‘r Hereticiaid a elwid Pelagianaid a Donatistiaid, a hynny drwy ddadlevad neulltuol cartrefig, ⟨p. 62⟩heb Gymanfa-Gyngor gyffredin. In y mod hyn̄ hefyd pan gymerodd yr Ymerodr Constantius (yngwydd pawb) blaid Auxentius Escob o ‘r teulu Arriaidd, yna ‘r Escob Cristnogawl Athanasius a nawdd-giliodd, nid at y Gymanfa-Gyngor gyffredin, lle‘r oedd ef in canfod na ellid cael less in y bid (o ran y rhwysc yr oedd yr Ymerodr in ei ddwyn, a‘r ymbleidio oedd yno) eithr at ei ddyscedigion a ‘i bobl ei hunan; self yw hynny, at Senedd-Gymanfa in ei wlad ei hun. Felly y gwnawd ordinhaad in y Gymanfa-Gyngor in Niçea, ar i ‘r Escobion ymgyn̄ull ag ymgasclu ynghyd ymhob un o‘u brood, o ‘r hyn lleiaf, unwaith bob blwyddyn; yr hyn ordinhaad a wnawd (medd y Gymanfa-Gyngor a gynhaliwyd yngh Calçedonia) fegis hwyn gynta ‘g y dechreve amryfyssedd neu gamweddeu darddu allan in un lle, y gelid ar y cais cantaf eu gwrthladd nhwy ‘n y fodfedd lle y dechrevent.
Herwydd nyni a wyddom fod arfer yr hen Dadeu o dreio ‘r ffordd ymma, cyn dyfod o honynt ir cyffredin Gymanfa-Gyngor o ‘r holl fyd. Y mae etto iw gweled y pryd hyn̄ Reoledigaetheu scrifennedig yn y Cymanfa-Gynghorau a gynhaliwyd yn y dinassoedd rhyddion: nid amgen, yn-ninas Carthago dan Cyprianus; yn Ançyra; yn Neoçaesaria; yng Gangria, a hefyd yn-ninas Paphlagonia; a hynny, fal y mae rhai ‘n tybied, cyn clywed crybwyll yn y byd am y gyffredin Gymanfa-Gyngor fawr yn Niçea. Llymma ‘r modd gynt y cyferfyddid yn ebrwydd a ‘r Hereticiaid a elwid Pelagianaid a Donatistiaid, a hynny drwy ddadleuad neulltuol cartrefig, ⟨p. 62⟩heb Gymanfa-Gyngor gyffredin. Yn y modd hyn̄ hefyd pan gymerodd yr Ymerodr Constantius (yngwydd pawb) blaid Auxentius Escob o ‘r teulu Arriaidd, yna ‘r Escob Cristnogawl Athanasius a nawdd-giliodd, nid at y Gymanfa-Gyngor gyffredin, lle‘r oedd ef yn canfod na ellid cael lles yn y byd (o ran y rhwysc yr oedd yr Ymerodr yn ei ddwyn, a‘r ymbleidio oedd yno) eithr at ei ddyscedigion a ‘i bobl ei hunan; sef yw hynny, at Senedd-Gymanfa yn ei wlad ei hun. Felly y gwnawd ordinhaad yn y Gymanfa-Gyngor yn Niçea, ar i ‘r Escobion ymgyn̄ull ag ymgasclu ynghyd ymhob vn o‘u broudd, o ‘r hyn lleiaf, vnwaith bob blwyddyn; yr hyn ordinhaad a wnawd (medd y Gymanfa-Gyngor a gynhaliwyd yngh Calçedonia) fegis hwyn gynta ‘g y dechreue amryfyssedd neu gamweddeu darddu allan yn vn lle, y gellid ar y cais cantaf eu gwrthladd nhwy ‘n y fodfedd lle y dechreuent.