A04462:177
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gedwch i ni ystyrio bellach a thalfyrru hyn o ymadrodd: y gwyr sydd ag awdurdod genthynt ar yr Escobiō: yr rhai a dderbyniasant orchmynnion oddi wrth Dduw ynghylch gwir grefydd; y rhai sydd in dwyn Arch Dduw adref drachgefn: in gwneuthyr Psalmeu sanctaidd; in olygwyr ar yr offeiriaid: in adeiladu Temleu; in traethu ymadroddiō o wasanaeth Duw; in ail-lanhau‘r Demleu: in bwrw i lawr uchelfeudd: in llosci llwyneu‘r Eulunod; in dyscu‘r offeiriaid eu swyddeu, ac in scrifenny rheoledigaetheu iddynt i arwain eu buchedd; in lad y Prophwydi annuwiol; in symmyd yr Escobion o‘u lleoedd: in galw Cymanfa-Gynghorau Escobion: in eistedd gyda‘r Escobiō ag in eu hyfforddi nhwy: in barnu Escob heretic iw gospedigaeth; ⟨p. 88⟩in mynny eu gwneuthyr in gydnabyddus ag achossion Crefydd; a‘r rhai dan scrifenny eu henweu, ag adrodd eu meddylieu mewn Seneddau, ydynt in cwplau hyn y gyd, nid drwy archiad ag awdurdod arall, eithr in eu henw eu hunain: A ddoedwn-ni am y rhai hyn, nad yw‘n perthyny iddynt ymyrryd ag achossion Crefydd? Neu am y Pennaeth, o wr llyg, a fo iddo a wnelo a‘r petheu hyn, a ddoedwn-ni ei fod ef in gwneuthyr in ddrwg, neu‘n rhyfigus, neu‘n echryslawn? Yr Ymerodreu a‘r Brenhinoedd cristioneiddiaf a mwyaf eu henafiaeth a‘mfrussurent gynt in yr achossion hyn; ag etto ni ddoetpwyd er joed arnynt, o ran hynny, na‘u bod in echryslawn, nag in rhyfigus chwaith. A phwy a gais ymofyn am Dwysogion catholiccach, neu am sampleu ardderchoccach? Gan hynny, os rhydd oedd iddyn-nhwy wneuthyr hyn, yr rhai nid oeddynt amgenach no Phennaethieid o wyr llyg in llywodraethu Teyrnassoedd; pa fai a wnaeth eyn Twysogion ni ‘r amser ymma, nad rhydd iddyn-nhwytheu wneuthyr y cyfryw, gan fod onynt in y cyfryw radd? Neu, pa nerth gorchestol o disc, a barn, a sancteiddrwydd, sydd in eyn gwrthwynebwyr ni, pride na fynnant i Dwysogion Cristnogawl gael gwybodaeth o‘r achos eithr eu gwahardd ⟨image 96⟩o‘u Seneddau: a hynny ‘n ollawl in erbyn deddfod yr hen Escobion catholic, yr rhai oeddynt arfer ynghylch crefydd o‘mgyd-gynghori a Thwysogion ag a Phennaethiaid? Weal, y mae‘n abl eu helynt nhwy, drwy hyn o fasnach geisio siccurhau eu braint a‘u brenhiniaeth; yr hyn a welant a ddiflanne ‘n fuan oni bae hynny. Herwydd pet‘r rhai a ossododd Duw‘n y radd uchaf in gweled ag in gwybod dichellion y gwyr hyn, pa fodd y maent in dirmygu gorchmynnion Christ: in tywyllu ag in diffoddi goleu‘r Efengyl:
Gedwch i ni ystyrio bellach a thalfyrru hyn o ymadrodd: y gwyr sydd ag awdurdod genthynt ar yr Escobiō: yr rhai a dderbyniasant orchmynnion oddi wrth Dduw ynghylch gwir grefydd; y rhai sydd yn dwyn Arch Dduw adref drachgefn: yn gwneuthyr Psalmeu sanctaidd; yn olygwyr ar yr offeiriaid: yn adeiladu Temleu; yn traethu ymadroddiō o wasanaeth Duw; yn ail-lanhau‘r Demleu: yn bwrw i lawr vchelfeudd: yn llosci llwyneu‘r Eulunod; yn dyscu‘r offeiriaid eu swyddeu, ac yn scrifenny rheoledigaetheu iddynt i arwain eu buchedd; yn lladd y Prophwydi annuwiol; yn symmyd yr Escobion o‘u lleoedd: yn galw Cymanfa-Gynghorau Escobion: yn eistedd gyda‘r Escobiō ag yn eu hyfforddi nhwy: yn barnu Escob heretic iw gospedigaeth;