A04462:187
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Lawyer o feddylieu (medd Solomon) sydd ynghalon din, eithr Cyngor yr Arglwydd a saiff in ddi-anwadal. Herwydd nid oes na doethineb, na gwybodaeth, na chyngor, a ddichyn bod in-nerbyn yr Arglwydd. Nid parhaus (medd Hilarius) mo ‘r petheu y mae dynion in eu adailad; rhaid yw adailadu, a chadw adailadaeth yr Eglwys, mewn mod arall; oblegid e ddarfu gossod yr Eglwys ar wadnau a gwaelod-feini ‘r Apostolion, a ‘r Prophwydi; a ‘i chynnal ynghyd y mae ‘r Congl-faen unig, yr hwn yw Jesus Grist. Eithr godidawg dross ben, a chymwys jawn i‘r amseroedd hyn, yw geirieu Saint Hieronimus; 1Pa ray bynna ‘g (medd ef) a ddarfu i Ddiawl eu twyllo gan eu denu i gyscu fegis drwy felys-gan melldigedig y môr-fyrynnion, deffro ‘r heini ⟨p. 94⟩y mae gair Duw, gan ddoedyd wrthynt: Cyfod ti, yr hwn wyd in cyscu, ymdderchaf i finny, a Christ a rid i ti Oleuni. Ag am hynny in-nyfodiad Christ, in-nyfodiad gair Duw, in-nyfodiad yr Athrawiaeth eglwysig, ag in-nyfodiad amser cwbl-ddestruwiad Dinas Nineveh a ‘r butteyn decca ‘i phryd a ‘i gwedd, yna y codir i finny y bobl a fuase mewn trim-gwsc o ‘r blaen dan eu Meistred, a nhwy a frussiant i fined i fynyddoedd y Scrythurau glan: ag yno y caant hwy y mynyddoedd Moeses, ag Joshua fab Nun; mynyddoedd eraill hefyd, self yw ‘r heini, y Prophwydi, a mynyddoedd y Testament newydd, self, yr Apostoliō, a‘r Efangylwyr. A phā fo ‘r bobl in ffo am noddfa i ‘r mynyddoedd hyn, a phan fônt cynefinol in-narllead y cyfryw fynyddoedd hynny, er na fedront hwy gael neb iw dyscu (herwydd mawr fydd y cynhayaf ag ni bid nemmawr o weithwyr) etto, ewyllys da ‘r bobl a haedda glod, er mwyn ffo ô honynt i ‘r cyfryw fynyddoedd; ag esceulustra eu Meistred a argyoeddir. Dymma ddoediad Hieronimus, a hynny mor hawdd ei ddealld nad rhaid dihoenglu mo‘naw. Oblegid y mae ef mor gyf-attebol i ‘r petheu a wellwn-ni y rowr ‘on a‘n llygeid, wedi dyfod i ben; ag y gellir ⟨image 102⟩tybied fod in ei fryd ef brophwydo ymlaen-law, a rhoi ‘n amlwg geyr-bron eyn hwynebau ni (drwy ryw yspryd prophwydoliaeth) holl helynt a chyflwr y bid sydd oni rowr‘on, destruwiad y butteyn Babylon in lawn gwchder; adnewyddiad braint Eglwys Dduw; dallineb a muscrellni ‘r Escobion; ag ewyllys da a chwannogrwydd y bobl. Herwydd pwy sydd mor ddall ag na will ef may‘r gwyr hyn̄ yw ‘r meistred hynny, dan yr rhai (medd Hieronimus) yr arweiniwyd y bobl i amryfyssedd, ag y dycpwyd nhwy i guscu?