A04462:53
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ag y rydym i‘n doedyd, fod un in arfer yr awdurdod i rwymo, cyn fynyched ag y cavo efe borth Teyrnas Nefoedd in-nerbyn yr Anghredinieid a‘r rhai cyndyn, gyda thraethu o honaw ef iddynt lwyr dial Duw, a thragwyddol gospedigaeth; Neu ynte cynifer gwaith ag y cavo efo allan o fynwes a chofleidiad yr Eglwys, y rhai a escumunwyd in gyhceddus. Diau pa farn bynnag, in y mod hyn, a roddo gweinidogion Duw, fod hynny mor gwbl gymeradwy a chin fodloned gan Dduw ei hun, ag iddo ynte Ryddhau, a Rhwymo, in y Nefoedd, pob peth a Ryddhevir neu a rwymir drwy eu gwaith nhwy ar y ddayar.
Ag y rydym i‘n doedyd, fod vn yn arfer yr awdurdod i rwymo, cyn fynyched ag y cauo efe borth Teyrnas Nefoedd yn-nerbyn yr Anghredinieid a‘r rhai cyndyn, gyda thraethu o honaw ef iddynt lwyr ddial Duw, a thragwyddol gospedigaeth; Neu ynte cynifer gwaith ag y cauo efo allan o fynwes a chofleidiad yr Eglwys, y rhai a escumunwyd yn gyhceddus. Diau pa farn bynnag, yn y modd hyn, a roddo gweinidogion Duw, fod hynny mor gwbl gymeradwy a chyn fodloned gan Dduw ei hun, ag iddo ynte Ryddhau, a Rhwymo, yn y Nefoedd, pob peth a Ryddheuir neu a rwymir drwy eu gwaith nhwy ar y ddayar.
Yr ydym mi‘n doedyd may agoriaden a‘r rhai y gellir cau neu agorud Teyrnas Nefoedd, ydyw gwybodaeth y Scrythurau, megis hefyd y mae Chrysostom in doedyd: yw dehonglad y Gyfraith (fall y mynegodd Tertullian:) yw Gair Duw (fall y testiolaetha Eusebius:) A Choelio y rydym gaffael o ddyscyblon Christ y gallu hyn, nid i wrando dirgel gifts, a fissial y bobl, fall y mae‘r offeiriadeu offerenllyd yr amser hwn in arfer ymhob man (ag felly‘n arferu megis na bae rhinwedd na rhaid wrth yr ⟨image 25⟩agoriadeu i ddim arall in y bid and i hynny‘n unig) eithr fall y gallent fined i ddyscu ag i gyhoeddi yr Efengyl i bawb, megis y byddent arogl bywyd i fywyd i‘r Crediniaid, ag arogl marwolaeth i farwolaeth i‘r Anghrediniaid a‘r rhai anffyddlon: Ag fall yr agorid a gair Duw (megis agor drws ag agoriad) feddylieu‘r rhai duwiol custuddiedig: gan ydifarhau o honynt eu beiau au buchedd o‘r blaen, a‘r ol iddynt ddechre gweled goleuni‘r Efengyl a chredu‘ng Hrist. A thu-ag-at am y rhai annuwiol cyndyn ni fynant gredu nag ymchwel o gyfeiliorni, ei gadel nhwy megis in gloedig wedi eu cau allan, fall y ffynnant waeth waeth, megis y mynegodd Saint Pawl.