A04462:66
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In wir,1 Awstin sy weithie in doedyd fod y faith le a‘r purdan hwnnw: weithie eraill nid yw ef in gwadu na ddichon body faith le: weithie amen, ag weithie drach-gefn gwadu y mae ef, nad oes mor faith beth: gan dybied ddarfod twyllo dynion in hynny, drwy‘r anwyl search y maen-nhwy‘n ei ddwyn i‘r rhai m eirw oedd hoff genthynt. Er hynny oll, o‘r unig amryfyssedd hyn, y tyfodd cymaint twf a chynhayaf o fferen-ffeiriadeu, a phan oedd arferedig werthu fferenneu ymhob cilfach, Temleu Duw a ddigwyddassant in dafarneu gwerth: gan wneuthyr i ddynion truain goelio, nad oedd ddim angen-rheitiach eu pryny: Gwir yw, nad oedd ddim in dwyn mwy elw i‘r offeiriaid o‘i werthu, ⟨image 32⟩no fferenneu. Tu-ag-at am luosowgrwydd y çeremoniae offer,2 ni a wyddom ddarfod i Awstin gwyno‘n dost o herwydd hynny‘n ei amser ef; achos pa ham y darfu i ni dory ymaeth lawyer onynt, er mwyn gwybod onom fod cydwybodau dynion mewn trafferth, ag Eglwys Dduw mewn gorthrech o‘n plegid. Cadwassom gyda ni, er hynny, mewn parch nid in unig y petheu a wyddom ei traddodi o‘r Apostolion i ni, eithr petheu eraill hefyd yr rhai a dybiassom y gallem eu dioddef in ddi-niwed i‘r Eglwys: o ran fod gofal gennym (fall yr erchis Pawl) am gwplau pob peth in y gyssegr gynlleidfa drwy drefn a gweddustra. Pob, peth a‘r ydoedd gau-addoliaeth, neu ddifudd, neu frynti, neu watwarwch, neu ynnerbyn y Scrythurau glan, neu‘n anghyfaddas i ddyniō pwyllus, fall y mae heddyw aneirif o betheu ynghrefydd y Pab: y rheini a ddarfu i ni eu bwrw ymaeth in bendifadde er mwyn na chlowem ar eyn calonneu adel llugru gwir wasaneth Dduw drwy‘r faith ofregedd. Doedyd eyn gweddieu rydym, fall y mae‘n gymwys, in yr jaith y mae‘r bobl in ei devalld; fegis (ynol cyngor S. Pawl) y gallo‘r bobl gael less cyffredinol dwry gyffredinol weddieu; mod yr arferodd yr holl dadeu duwiol a‘r escobiō catholic ⟨p. 24⟩in yr hen a‘r newydd destament; bob un o‘r ddau, weddio eu hunain, a dyscu i‘r bobl weddio: rhag ini (fall y doedodd S. Awstin) fegis yr adar Parateu, a‘r Mwyeilch, gymeryd arnom ddoedyd y peth nis gwyddom.
Yn wir,1