A04462:60
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Doedyd y rydym fod Swpper yr Arglwydd in Sacrament, fief, in arwydd neu wystyl hynod corph a gwaed Christ: in yr hyn rydys in rhoi fegis geyrbron eyn llygeid marfolaeth ag adgyfodiad Christ, a pheth bynnag a wnaeth ef in ei gnawdoliaeth: fall y rhoddem ddioleh herwydd ei farfolaeth ef, a‘n gwarediad ni. Ag felly y gallem wrth fynnych arfer y Sacramenteu, adnewyddu beunydd coffaedigaeth am hyn: fall y gallem hefyd gael eyn porthi a chorph ag a gwaed Christ i obaith yr adgyfodiad, ag i fywyd tragwyddol, gan fod in gwbl-ddiau gennym may‘r un peth i borthi eyn heneidieu yw corph a gwaed Christ, ag ydyw‘r bara a‘r gwin i borthi‘n cyrph. Ir wledd hon in eyn barn ni y dylid gwahadd pobl Dduw fall y gallent bawb fod in gyfrannogion in eu mysc eu hun gan amlwg ddangos a thestiolaethu y gobaeth a‘r gymdeithas sydd genthynt bawb gida‘i gilidd ing-Hrist Jesus. Ag am hynny o bae neb a fynneu ddim onid edrych ar y cymmun sanctaidd heb fod in gyfrannog o honaw: hwnnw a gae‘i escymuno gan yr hen dadeu ag Escobion Rhufain in y brif-Eglwys,1 fegis din echruslawn heb gred gantho. Yr hyn ⟨p. 20⟩beth ydoedd arferedig cyn clywed son am offeren neulltuol in y bid. Nid oedd Gristion y pride hynny a gummune wrtho‘i hun,2 a‘r lleill in edrych arno. Am hynny y gwnaeth Calixtus drefn ag ordinhad ar gummuno o bawb hwyn-gyntag y derfydde cyssegru,3 oddieithr bod in well ganthynt sefyll o‘r tu allan i ddrws yr Eglwys: Herwydd felly (hebr ef) yr archodd yr Apostolion ag y mae‘r sanctaidd Eglwys Rufain in cadw rhegddi. Hefyd pan dell y bobl i gummuno, e ddylid rhoi‘r Sacrament iddynt dan y ddeuryw (self bara, a gwin) oblegit felly y gorchmynnodd Christ; felly y darfu i‘r Apostolion drefny, a‘r hen dadeu a‘r Escobion catholic a gadwassant ag a galynassant y ford hon. Arneb a wnelo‘n amgenach i hyn,4 sydd evog o gyssegr-ledrad fall y dywed Gelasius: Am hynny diffaith jawn y mae eyn gwrthwynebwyr ni in mined rhagddynt, ag nid amgen no speiliwyr ydynt am draws-wthio allan, a chwbl wahardd y cummun sanctaidd: a hynny‘ngwrthnwyneb gair Duw, heb awdurdod un hen Gymanfa-Gyngor, heb un hen Athro catholic, heb gyffelybrwydd o‘r faith beth in y Brif-Eglwys, heb ysturiaeth in y bid; gan gadw, a chynnal, neulltuol-fferenneu, a lliaws o Sacramenteu, in-erbyn diau orchymyn ag archiad Christ: a hefyd in erbyn holl henafiaeth.