A04462:62
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ag nid ydym in adrodd hyn in egwan, oerllyd, namyn fall coel ffrwythlawn-wirionedd. O blegid er nad ydym in cyffwrdd corph Christ a safneu ag a damned, etto mae gennym a fael arno, a‘i fwytta rydym drwy ffydd, gwybodaeth, ag yspryd. Diau nad offer mo‘r ffydd honno sydd in rhoi lawn afael a‘r Grist; ag nid oer-wagaidd y cymerir, y peth a gymerer drwy wybodaeth, a ffydd, ag Yspryd. Cans in y cyssegr ddirgeledigaetheu neu‘r Sacramenteu hyn cynnig a rhoddi rydis i ni Grist eu hun in gwbl-ollawl, fall y gallem wybod in hyspus mae cig o‘i gig, ag esgyrn oi esgyrn ef ydym; a bod Christ in aros ynom i, a ninneu yntho ynteu.
Ag nid ydym yn adrodd hyn yn egwan, oerllyd, namyn fal coel ffrwythlawn-wirionedd. O blegid er nad ydym yn cyffwrdd corph Crist a safneu ag a dānedd, etto mae gennym a fael arno, a‘i fwytta rydym drwy ffydd, gwybodaeth, ag yspryd. Diau nad ofer mo‘r ffydd hōno sydd yn rhoi llawn afael a‘r Grist; ag nid oer-wagaidd y cymerir, y peth a gymerer drwy wybodaeth, a ffydd, ag Yspryd. Cans yn y cyssegr ddirgeledigaetheu neu‘r Sacramenteu hyn cynnig a rhoddi rydis i ni Grist eu hun yn gwbl-ollawl, fal y gallem wybod yn hyspus mae cig o‘i gig, ag esgyrn oi esgyrn ef ydym; a bod Crist yn aros ynom i, a ninneu yntho ynteu.
Am hynny wrth drin y Sacramenteu hyn, da rydis in rhybuddio‘r bobl cyn dyfod onynt i Gumuno, gan erchi iddynt dderchafu eu calonneu a chodi eu meddylieu tu ar Nef;1 o blegid yno y mae ef, drwy‘r hwn y gorfydd i ni gael lawn borthiant a bywyd.
Am hynny wrth drin y Sacramenteu hyn, da rydis yn rhybuddio‘r bobl cyn dyfod onynt i Gumuno, gan erchi iddynt dderchafu eu calonneu a chodi eu meddylieu tu ar Nef;1 o blegid yno y mae ef, drwy‘r hwn y gorfydd i ni gael llawn borthiant a bywyd.
- 1De conse. dist. 1. cap. Quando.