A04462:75
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Neu‘n hyttrach, nid oes un Goror y did heddyw cyn rhydded oddiwrth y pla-heintieu hyn, ag ydyw‘r gwledydd lle yr ydis in dyscu‘r Efengyl in llwybraidd, ag in gyffredinol. A phette‘n gwrthwynebwyr ni‘n gwneuthyr jawn ysturiaeth o‘r achos fall y dylent, prawf mawr yw hyn, may dymma wirionedd yr Efengyl, yr ⟨p. 28⟩hon rydym-mi in ei dyscu i‘r bobl. Canys antyr i *ler dyfu and gyda gwenith, ag odid dyfu peiswyn heb yd. Pwy nis gwyr er in amseroedd yr Apostolion eu hunain pa sawl Heresi a gyd-godassant in y man hwyn-gynta‘g y tanwyd yr Efengyl a‘r led?
Neu‘n hyttrach, nid oes vn Goror y dydd heddyw cyn rhydded oddiwrth y pla-heintieu hyn, ag ydyw‘r gwledydd lle yr ydis yn dyscu‘r Efengyl yn llwybraidd, ag yn gyffredinol. A phette‘n gwrthwynebwyr ni‘n gwneuthyr iawn ysturiaeth o‘r achos fal y dylent, prawf mawr yw hyn, may dymma wirionedd yr Efengyl, yr ⟨p. 28⟩hon rydym-mi yn ei dyscu i‘r bobl. Canys antyr i *ler dyfu ond gyda gwenith, ag odid dyfu peiswyn heb yd. Pwy nis gwyr er yn amseroedd yr Apostolion eu hunain pa sawl Heresi a gyd-godassant yn y man hwyn-gynta‘g y tanwyd yr Efengyl a‘r lled?
- *esrau.
Pwy er joed a glowse son o‘r blaen am Simon, Menander, Saturnius, Basilides, Carpocrates, Cherinthus, Ebion, Valentinus Secundus, Marcosius, Colorbasius, Heracleo, Lucianus, a Severus? Beth a wnawn ni‘n coffau‘rhain? Epiphanius a gyfrifodd bedair-ugain amriw Heresi; Ag Awstin yntef, lawyer amriw Heresi ychwaneg, a ddarfuasse iddynt gyd-tyfu gyda‘r Efengyl. Beth er hynny? Ai‘r Efengyl nid ydoedd Efengyl er mwyn geni Heresieu gyda hi? Neu ai Christ nid ydoedd Grist, am yr un achos?