A04462:63
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Am hynny wrth drin y Sacramenteu hyn, da rydis in rhybuddio‘r bobl cyn dyfod onynt i Gumuno, gan erchi iddynt dderchafu eu calonneu a chodi eu meddylieu tu ar Nef;1 o blegid yno y mae ef, drwy‘r hwn y gorfydd i ni gael lawn borthiant a bywyd.
Am hynny wrth drin y Sacramenteu hyn, da rydis yn rhybuddio‘r bobl cyn dyfod onynt i Gumuno, gan erchi iddynt dderchafu eu calonneu a chodi eu meddylieu tu ar Nef;1 o blegid yno y mae ef, drwy‘r hwn y gorfydd i ni gael llawn borthiant a bywyd.
- 1De conse. dist. 1. cap. Quando.
1Rhaid i ni (medd Cyrillus) pan ddelom i dderbyn y Sacrament hwn, roi diofryd meddylieu bydol, ag amcanion offer. A‘r Gymanfa-Gyngor in Niçea fall y mae rhai‘n ei hadrodd yngroegiaith, sydd in gwahardd ⟨p. 22⟩i ni fod ag issel feddlieu gennym, neu grymmu o honom tu-ag-at y bara a‘r gwin a roer geyr eyn bron. A doedyd rydym fall y scrifennodd Chrysostom in gyfaddas jawn, May cnawd Christ ydyw‘r corph marw, a nine ydym yr Eryrod: 2Ysturiaeth yr hyn beth, ydyw fod in rhaid i ni hedeg in uchel o mynnwn ddyfod at gorph Christ. Canys (medd Crisostom) bwrdd yr Eryrod ag nid bwrdd y cogfrain yw hwn. 3A megis y mynegodd Cyprianus; Bwyd yr enaid ydyw‘r bara ymma ag nid bwyd y boll. Ag medd Awstin, pa fodd y cymeraf afel arno-fo sydd absen? 4Pa fodd yr estynnaf fy law i‘r Nef i gael gafael arno-fo sydd in eistedd yno? Attebodd, Estyn dy ffydd hid yno, a thy a gefaist afael arno.