A04462:79
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Eithr o Dduw dayonns! pa faith ddynion ydyw‘r rhain sy‘n beio arnom-mi am ymrafaelion? ag ydynt hwy eu hunain (dybygwch chwi) in cytuno in dda? yw pob rhai o honynt hwy‘n ddi-ammeu genthynt beth a galynant? Oni bu er joed ddim ymrysson, ddim ymrafaelion, in eu plith nhwy? Pa ham ynte nad ywr Scotistiaid, a‘r Thomistiaid, in cytuno‘n well in eu mysc eu hun, ynghylch y peth y maent hwy‘n ei alw Meritum congrui, a Meritum condigni, ynghylch pechod dechrevadol in y wynfydedig fair, ag ynghylch Addunedau, self, Votum solemn, & votum simplex? Pam y mae‘r Cannonistiaid in doedyd ddarfod ordeinio y gifts-glust ⟨p. 30⟩drwy gyfraith din, a‘r yscolheigwyr nhwythe, in doedyd ddarfod ei hordeinio drwy gyfraith Dduw? Pa ham y mae amrafael rhwng Albertus Pighius, â Chaietanus; rhwng Thomas, â Lombardus; rhwng Scotus, â Thomas; rhwng Occanus, â Scotus; rhwng Alliensis, âg Occanus; rhwng y Nominaliaid, a‘r Realiaid? Ag nid wyf fi‘n crybwyll etto am gynnifer amrafaelion y ffrierod ar Mynachod, fod rhai o honynt in cyfleu sancteiddrwydd mewn bwyta pyscod, eraill mewn bwyta llysieu: rhai mewn gwisco escidieu, eraill mewn Sandalieu; rhai mewn gwisc lien, eraill mewn gwisc wlan; rhai o honynt in gwisgo dillad gwnion, eraill dillad duon: rhai wedi eillio‘u corynneu in llettach: eraill in gyfyngach: rhai‘n mined a gwadneu dan ei traed, eraill in draednoethion: rhai a gwreguseu amdanynt, a rhai eraill heb wreguseu.
Eithr o Dduw dayonns! pa fath ddynion ydyw‘r rhain sy‘n beio arnom-mi am ymrafaelion? ag ydynt hwy eu hunain (dybygwch chwi) yn cytuno yn dda? yw pob rhai o honynt hwy‘n ddi-ammeu genthynt beth a galynant? Oni bu er ioed ddim ymrysson, ddim ymrafaelion, yn eu plith nhwy? Pa ham ynte nad ywr Scotistiaid, a‘r Thomistiaid, yn cytuno‘n well yn eu mysc eu hun, ynghylch y peth y maent hwy‘n ei alw Meritum congrui, a Meritum condigni, ynghylch pechod dechreuadol yn y wynfydedig fair, ag ynghylch Addunedau, sef, Votum solenne, & votum simplex? Pam y mae‘r Cannonistiaid yn doedyd ddarfod ordeinio y gyffes-glust ⟨p. 30⟩drwy gyfraith ddyn, a‘r yscolheigwyr nhwythe, yn doedyd ddarfod ei hordeinio drwy gyfraith Dduw? Pa ham y mae amrafael rhwng Albertus Pighius, â Chaietanus; rhwng Thomas, â Lombardus; rhwng Scotus, â Thomas; rhwng Occanus, â Scotus; rhwng Alliensis, âg Occanus; rhwng y Nominaliaid, a‘r Realiaid? Ag nid wyf fi‘n crybwyll etto am gynnifer amrafaelion y ffrierod ar Mynachod, fod rhai o honynt yn cyfleu sancteiddrwydd mewn bwyta pyscod, eraill mewn bwyta llysieu: rhai mewn gwisco escidieu, eraill mewn Sandalieu; rhai mewn gwisc lien, eraill mewn gwisc wlan; rhai o honynt yn gwisgo dillad gwnion, eraill dillad duon: rhai wedi eillio‘u corynneu yn llettach: eraill yn gyfyngach: rhai‘n myned a gwadneu dan ei traed, eraill yn draednoethion: rhai a gwreguseu amdanynt, a rhai eraill heb wreguseu.