A04462:71
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Llymma weal‘r echruslawn Heresi honno, am yr hyn y may Pab Rhufain yr awr hon, in barnu ag in bwrw ar golly darn mwya o‘r bid, heb wrando er joed etto ysturiaeth eu hachos hwynt. Cymhwyssach fuasfe iddo, erlyn cyfraith in-nerbyn Christ, a‘r Apostolion, a‘r Tadeu sanctaidd; herwydd o honynt hwy nid in unig may hanfod, eithr dechre, a dosparth y grediniaeth hon: oddieithr i‘r Pab a‘i blaid ddoedyd (fall y gwnant y scatfydd) nad ordeiniodd Christ y Cummun ⟨p. 26⟩sanctaidd iw ranny ymysc y rhai ffyddlon; Neu ddarfod i Grist, a‘r Apostolion, a‘r hen dadeu, ddoedyd offerenneu neulltuol ymhob congl o‘u Temleu, weithie deg, weithie ugain, mewn un diwrnod: neu ddarfod i Grist a‘r Apostolion wahardd yr holl gyffredin-bobl oywrth Sacrament ei waed ef: Neu nas galwodd Gelasius (eu hathro hwynt) in gyssegr-ledrad y peth y maent hwy in ei wneuthyr heddyw ymhob man, gan farnu in Heretic y neb a wnelo amgen. Neu na ddoedodd Ambros, Awstin, Gelasius, Theodoretus, Chrisostomus, ag Origenes, y geirieu hyn: Y Bara a‘r gwin in y Sacrament ydynt yr un rhyw ag oeddent o‘r blaen: y Peth yr ydis in ei welled a‘r y bwrdd sanctaidd, Bara ydyw: Nid ydyw sylwedd y Bara, a naturiaeth y Gwin in peidio: Ni newidiwyd mo sylwedd a naturiaeth y Bara: y Bara hwnnw, cimaint ag a hanyw o ddeunydd bara, sy‘n mind i‘r boll, ag a fwryir allan ir dommen; Neu na weddiodd Christ, a‘r Apostolion, a‘r Tadeu sanctaidd, in yr jaith y gall‘r bobl ei deal: Neu na chwpplaodd Christ y cwbl drwy‘r unig Aberth honno, a offrymmodd ef unwaith: Neu may amherffaith oedd yr Aberth honno, a bod in rhaid i ni‘r amser ymma wrth un arall.
Llymma wele‘r echruslawn Heresi honno, am yr hyn y may Pab Rhufain yr awr hon, yn barnu ag yn bwrw ar goll y darn mwya o‘r byd, heb wrādo er ioed etto ysturiaeth eu hachos hwynt. Cymhwyssach fuasfe iddo, erlyn cyfraith yn-nerbyn Crist, a‘r Apostolion, a‘r Tadeu sanctaidd; herwydd o honynt hwy nid yn vnig may hanfod, eithr dechre, a dosparth y grediniaeth hon: oddieithr i‘r Pab a‘i blaid ddoedyd (fal y gwnāt y scatfydd) nad ordeiniodd Crist y Cummun ⟨p. 26⟩sanctaidd iw ranny ymysc y rhai ffyddlon; Neu ddarfod i Grist, a‘r Apostolion, a‘r hen dadeu, ddoedyd offerenneu neulltuol ymhob congl o‘u Temleu, weithie deg, weithie vgain, mewn vn diwrnod: neu ddarfod i Grist a‘r Apostolion wahardd yr holl gyffredin-bobl oywrth Sacrament ei waed ef: Neu nas galwodd Gelasius (eu hathro hwynt) yn gyssegr-ledrad y peth y maent hwy yn ei wneuthyr heddyw ymhob man, gan farnu yn Heretic y neb a wnelo amgen. Neu na ddoedodd Ambros, Awstin, Gelasius, Theodoretus, Chrisostomus, ag Origenes, y geirieu hyn: Y Bara a‘r gwin yn y Sacrament ydynt yr vn rhyw ag oeddent o‘r blaen: y Peth yr ydis yn ei weled a‘r y bwrdd sanctaidd, Bara ydyw: Nid ydyw sylwedd y Bara, a naturiaeth y Gwin yn peidio: Ni newidiwyd mo sylwedd a naturiaeth y Bara: y Bara hwnnw, cimaint ag a hanyw o ddeunydd bara, sy‘n mynd i‘r bol, ag a fwryir allan ir dommen; Neu na weddiodd Crist, a‘r Apostolion, a‘r Tadeu sanctaidd, yn yr iaith y galle‘r bobl ei deall: Neu na chwpplaodd Crist y cwbl drwy‘r vnig Aberth honno, a offrymmodd ef vnwaith: Neu may amherffaith oedd yr Aberth honno, a bod yn rhaid i ni‘r amser ymma wrth vn arall.