A04462:84
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gan hynny, pan welsont hwy na ellid cael achos cyfiawn i feio ar eyn hathrawiaeth ni, yna rhoi eu llownfryd a wnaethant ar oganu‘n buchedd, gan haeru arnom *ddamnio pob gweithred dda, agoryd y drussieu i bob anllywodraeth ag anlladrwydd, a cham-arwain onom-mi‘r bobl allan o holl lwybrau rhinwedd. Ag o ddoedyd y gwir, nid ydyw, ag ni bu er joed fuchedd dynion (pe rhown a‘n bod nhwy‘n dduwiol, ag in gristnogion) cyn burred na ellid cael peth gwall in ymddygiad y rhai goreu a‘r rhai diweiriaf: hefyd, mae‘r cyfriw naturiaeth ym hob math ar din i ogwyddo at ddrygioni, a chin howsed hefyd gan bawb ddrwg-dybied; ag y gellir clywed doedyd, a pheri coelio, y petheu ni wnaethpwyd er joed, ag nid amcanwyd eu gwneuthyr. Ag fall y cenfyddir y smotyn lleiaf in y dilledyn gwnnaf, felly hawdd yw craffu ar y gronyn lleiaf o frynti in y fuchedd lanaf. Nid ym-mi‘n tybied eyn bod ni‘n hunein, ⟨p. 33⟩(neu‘r cynifer a dderbyniodd athrawiaeth yr Efengyl) fall Angylion, ag in byw‘n ddi-feius ag in ddifrycheulyd: ag ni thybiwn-ni chwaith, allu o‘r gwyr hyn fod mor ddall nas canfyddant hwy drwy‘r rhigol lleia, od oes ddim ynom a ellir craffu arno: na‘n bod nhwy mor howddgar ag y cymerant hwy ddim or eiddym-mi in y rhan goreu: nag etto mor rhywiog eu hysturiaeth, ag y bid gwiw genthynt droi eu golwg in ol, i edrych arnynt eu hun, a chyd-bwyso eyn buchedd ni gyda‘r eyddynt eu hunain. Od aem-mi i chwilio in fanwl, hyn o beth o‘r dechrevad, ni a wyddom fod in amser yr Apostolion, ddynion Cristnogion, drwy‘r rhai y ceblid enw‘r Arglwydd ag y gogenid ef ymhlith y cenedloedd.
Gan hynny, pan welsont hwy na ellid cael achos cyfiawn i feio ar eyn hathrawiaeth ni, yna rhoi eu llownfryd a wnaethant ar oganu‘n buchedd, gan haeru arnom *ddamnio pob gweithred dda, agoryd y drussieu i bob anllywodraeth ag anlladrwydd, a cham-arwain onom-mi‘r bobl allan o holl lwybrau rhinwedd. Ag o ddoedyd y gwir, nid ydyw, ag ni bu er ioed fuchedd dynion (pe rhown a‘n bod nhwy‘n dduwiol, ag yn gristnogion) cyn bured na ellid cael peth gwall yn ymddygiad y rhai goreu a‘r rhai diweiriaf: hefyd, mae‘r cyfriw naturiaeth ym hob math ar ddyn i ogwyddo at ddrygioni, a chyn howsed hefyd gan bawb ddrwg-dybied; ag y gellir clywed doedyd, a pheri coelio, y petheu ni wnaethpwyd er ioed, ag nid amcanwyd eu gwneuthyr. Ag fal y cenfyddir y smotyn lleiaf yn y dilledyn gwnnaf, felly hawdd yw craffu ar y gronyn lleiaf o frynti yn y fuchedd lanaf. Nid ym-mi‘n tybied eyn bod ni‘n hunein,