A04462:88
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ar petheu hyn nid ydynt in unig arferedig, ag wrth her gydfod a hwynt in gymeradwy, fegis eu holl helyntieu eraill gan-mwya, namyn bellach wedi mind in ⟨image 44⟩hen ag in bwdr-addfed. Canys, pwy nis gwyr pa dialled a wnaeth Petrus Aloisius (mab y Pâb Pawl y trydydd) a Chosmus Cherius Escob Ffanensis? A‘r peth a wnaeth Joannes Casa Archescob Beneventanus, ydoedd genadwr oywrth y Pab, at Bennaethieid tref Venis, yr hwn Archescob a scrifennodd ing-hanmoliaeth pechod ffiaidd erchyll, yr hwn ni ddylid crybwyll amdano, ag ai gosododd ef allan a geirieu or faith serthaf, mewn cymhendod melldigedig? Pwy ni chlywodd mor ddiffaith ag mor echryssawn y lladdodd Alphonsus Diazius (ydoedd Spaniard) ei frawd Joannes Diazius, gwr gwirion santeiddiol drosben, oblegid ddarfod i‘r Joannes hwnnw dderbyn Efengyl Jesus Grist, ag na sin ef ddyfod i Rufain and hynny; o achos pa ham y danfonessid yr Alphonsus uchod o Rufain i Germania yw lad ef? And fo all, yr attebant hwy y dichyn y faith betheu a‘r hain weithieu ddigwydd, lle y bo goreu llywodraeth, a hynny‘n erbyn ewyllys y llywodraethwyr: a bod cyfreithieu da i gospi y cyfriw gam-weddeu.
Ar petheu hyn nid ydynt yn vnig arferedig, ag wrth hir gydfod a hwynt yn gymeradwy, fegis eu holl helyntieu eraill gan-mwya, namyn bellach wedi mynd yn ⟨image 44⟩hen ag yn bwdr-addfed. Canys, pwy nis gwyr pa ddialedd a wnaeth Petrus Aloisius (mab y Pâb Pawl y trydydd) a Chosmus Cherius Escob Ffanensis? A‘r peth a wnaeth Ioannes Casa Archescob Beneuentanus, ydoedd genadwr oywrth y Pab, at Bennaethieid tref Venis, yr hwn Archescob a scrifennodd yng-hanmoliaeth pechod ffiaidd erchyll, yr hwn ni ddylid crybwyll amdano, ag ai gosododd ef allan a geirieu or fath serthaf, mewn cymhendod melldigedig? Pwy ni chlywodd mor ddiffaith ag mor echryssawn y lladdodd Alphonsus Diazius (ydoedd Spaniard) ei frawd Ioannes Diazius, gwr gwirion santeiddiol drosben, oblegid ddarfod i‘r Ioannes hwnnw dderbyn Efengyl Iesu Grist, ag na fynne ef ddyfod i Rufain ond hynny; o achos pa ham y danfonessid yr Alphonsus vchod o Rufain i Germania yw ladd ef? Ond fo alle, yr attebant hwy y dichyn y fath betheu a‘r hain weithieu ddigwydd, lle y bo goreu llywodraeth, a hynny‘n erbyn ewyllys y llywodraethwyr: a bod cyfreithieu da i gospi y cyfriw gam-weddeu.