A04462:97
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Od ydym-mi drauturieid y sawl ydym in anrhydeddu‘n Twysogion, ag in ymmufuddhau iddynt fegis y mae Gair Duw in ei erchi, a hefyd in gweddio drostynt; Pa faith ddynion ynte, ydynt hwy, y rhai heblaw gwneuthyr onynt y cwbl o‘r petheu rhag-ddoededig, y mae hefyd in gymeradwy genthynt y faith betheu, fegis pettent weithredoedd da dross-ben? ydynt hwy ynte, in dyscu‘r bobl fall rydym-i, i ym-ufuddhau iw Pennaethied; neu a allant hwy drwy onestrwydd haeru arnom, may dynion cynnurfus ydym, in terfyscu‘r heddwch cyffredin, ag heb fry gennym ar fraint a mowredd Twysogion? In wir, ⟨image 50⟩nid ydym-mi‘n bwrw ymmaeth Jau‘r ufudd-dod oddi-arnom; nag in cyffroi Teyrnassoedd; nag in gwneuthyr, nag in dadwneuthyr Brenhinoedd; nag in newidio llywodraetheu; nag in rhoi gwenwyn i‘n Brenhinoedd iw yfed: nag in estyn eyn traed iddynt iw cyssanu; na thrwy anfeidrol ddirmygwch in gossod eyn traed ar gyrn eu gyddfeu hwynt. Chwaethach hyn yw‘n haddysc a‘n hathrawiaeth ni,1 may dyledus i bob perchen enaid o ba alwedigaeth bynnag fyddo, ai Mynach, ai Efengylwr, ai Prophwyd, ai Apostol, ymddarostwng i‘r Brenhinoedd a‘r Pennaethiaid; Ag y dyle‘r Pab ei hun, alw a chyfadde‘r Ymerodr in Arglwydd arno, ag in feistr iddo; megis y gwnai Escobion Rhufain gynt in y bid a fu;2 oddieithr mynny o‘r Pab gael ei gymeryd in uwch o radd na‘r Efengylwyr, na‘r Prophydi, ag na‘r Apostolion. Dyscu i‘r bobl in gyffredinol rydym-mi, may rhaid iddynt ymufuddhau iw Twysogion, fegis i wyr wedi eu danfon oddi wrth Dduw ei hun; a phwy bynnag a safo in eu herbyn hwynt, sefyll y mae ef in-nerbyn ordinhaad Duw. Hyn yw addysc eyn hyscol ni: hyn sydd anlwg iw welled ag iw glywed in eyn llyfreu a‘n pregetheu ni; a hefyd ymmuchedd ⟨p. 44⟩ag in llarieidd-ymddygiad eyn pobl ni. A lle maent hwy‘n doedyd ddarfod i ni ymado ag undeb yr Eglwys Gatholic, peth atcas jawn yw hyn; a hefyd, er nad gwir mo‘naw, etto y mae lliw a llun Gwirionedd arno. Herwydd y cyffredin a‘r gynylleidfa anwybodus, ni choeliant in unig y petheu sydd wir a di-amhevol, eithr hefyd y petheu a ddamweiniant in debig i wir. Ag am hynny ni a welwn, beth in oestadal a wnai‘r rhai fell-gyfrwys, oblegid nad oedd wirionedd ar eu tu hwynt, ymddadle ag ymrafael a wnaent ymhlaid petheu cyfflybus i wir, fegis y twyllid drwy ryw eulun, a chyffelybrwydd gwir, y rhai ni allent welled gwaelod ag eigion yr achos.