A04462:94
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ag o ran porthi ei chwant awyddus ef, i lywodraethu ag i deyrnassu fall Brenin, ef a ddrylliodd in ddarneu Ymerodraeth Rhufain, ag a rwygodd holl Gred drwy drallod a therfysc. Diffaith ag fall bradwr y gwnaeth ef ryddhau‘r Rhufeinieid, ar Italiaid, ag efo‘i hun hefyd, o‘r llwf a gymerasai ef a nhwytheu, i fod in gywir i Ymerodr Graeçia, gan wyr-droi deiliaid yr Ymerodr oddi wrtho; a galw Carolus Magnus Martellus, o Ffrainc, i Italia, ai wneuthyr ef in Ymerodr; yr hyn beth ni welsid er ⟨p. 42⟩joed mo‘i faith.1 Ef a fwriodd Chilpericus brenin Ffrainc (yr hwn nid ydoedd dwysog drwg) allan o‘i deyrnas, in unig er mwyn nad oedd ef in rhyngy bodd iddo-fo; ag a wnaeth Pipinus in frenin in ei le ef. Hagar ol iddo fwrw allan brenin Philip Dêg, ef a ordeiniodd ag a farnodd (pe y gallase ef gwplau ei amcan) frenhiniaeth Ffrainc i Albertus brenin y Rhufeinieid. 2Ef a anrheithiodd in llwyr ddifadde ddinas a llywodraeth Florentia ei wlad ei hun: ef a‘i dygodd hi o rid-did a thangneddyf, ag ai dododd dan reolaeth un gwr fall y gall hwnnw wneuthyr pa lywodraeth a sin ef, wrth ei ewyllys a‘i drachwant ei hun. Efe a osododd yr Ymerodr Carolus y. 5. o‘r naull du,3 a Françis brenin ffrainc o‘r tu arall, i ddinistr Duciaeth Savoy cyn llwyred, ag na adawyd ir Duc aflwyddianus braid un ddinas i roi ei ben ynddi.
Ag o ran porthi ei chwant awyddus ef, i lywodraethu ag i deyrnassu fal Brenin, ef a ddrylliodd yn ddarneu Ymerodraeth Rhufain, ag a rwygodd holl Gred drwy drallod a therfysc. Diffaith ag fal bradwr y gwnaeth ef ryddhau‘r Rhufeinieid, ar Italiaid, ag efo‘i hun hefyd, o‘r llwf a gymerasai ef a nhwytheu, i fod yn gywir i Ymerodr Graeçia, gan wyr-droi deiliaid yr Ymerodr oddi wrtho; a galw Carolus Magnus Martellus, o Ffrainc, i Italia, ai wneuthyr ef yn Ymerodr; yr hyn beth ni welsid er ⟨p. 42⟩ioed mo‘i fath.1 Ef a fwriodd Chilpericus brenin Ffrainc (yr hwn nid ydoedd dwysog drwg) allan o‘i deyrnas, yn vnig er mwyn nad oedd ef yn rhyngy bodd iddo-fo; ag a wnaeth Pipinus yn frenin yn ei le ef. Ag ar ol iddo fwrw allan brenin Philip Dêg, ef a ordeiniodd ag a farnodd (pe y gallase ef gwplau ei amcan) frenhiniaeth Ffrainc i Albertus brenin y Rhufeinieid.