A20213:1027
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din…Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn…
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din ... / wedi ei osod allan ar dull ... Dent ...Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn ... / vvedi ei osod allan ar ddull ... Dent ...
Printiedig in Llundain : Gan Nicholas Okes dross Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630Printiedig yn Llundain : Gan Nicholas Okes dros Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Caniadha i mi allu dy garu di in fawr bôb amser o hyn allan, ac o garaid arnat dy ofni, ac ufyddhau i ti. O Arglwydd chwan•ga fy ffydd fell y credwyf in ddiammeu hôll add•widion yr Efengyl, â wnaed in dy fâb Christ, ac y rhoddwyf fynghwbl oglud arnynt.
Caniadha i mi allu dy garu di yn fawr bôb amser o hyn allan, ac o garaid arnat dy ofni, ac vfyddhau i ti. O Arglwydd chwan•ga fy ffydd fel y credwyf yn ddiammeu hôll add•widion yr Efengyl, â wnaed yn dy fâb Crist, ac y rhoddwyf fynghwbl oglud arnynt.
Cryfhâ fi i ddwyn jachus ffrwythau ffydd, ac edifeirwch, in fy hôll weithredoedd neill-duol. Llanw fy enaid in lawn o lawenydd, a thangnheddyf in credu. Lanw fi in lawn o gyssur oddi fewn, a nerthysprydol in erbyn pôb profedigaethau.
Cryfhâ fi i ddwyn iachus ffrwythau ffydd, ac edifeirwch, yn fy hôll weithredoedd neill-duol. Llanw fy enaid yn llawn o lawenydd, a thangnheddyf yn credu. Lanw fi yn llawn o gyssur oddi fewn, a nerthysprydol yn erbyn pôb profedigaethau.
Dyro i mi etto rhag law ychwaneg gydnabyddiaeth o'th gariad, a'th amryw drugareddau tu ag attaf. Gweithia in fy enaid gariad i'th fawredd, a zêl i'th ogoniant, casineb i ddrŵg, a chwant i bôb pethau daionus.
Dyro i mi etto rhag llaw ychwaneg gydnabyddiaeth o'th gariad, a'th amryw drugareddau tu ag attaf. Gweithia yn fy enaid gariad i'th fawredd, a zêl i'th ogoniant, casineb i ddrŵg, a chwant i bôb pethau daionus.