A20213:354
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din…Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn…
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din ... / wedi ei osod allan ar dull ... Dent ...Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn ... / vvedi ei osod allan ar ddull ... Dent ...
Printiedig in Llundain : Gan Nicholas Okes dross Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630Printiedig yn Llundain : Gan Nicholas Okes dros Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630
Title page typeset from the transcription.
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Theol. Diau nad oes dim or fâth achos, ⟨p. 133⟩and in hyttrach i lawenychu, i guro dwylo ynghyd, a bod in hyfryd ddiogel: Canys â ddichon tâd wrthod ei bla it? Brenin ei ddeiliaid? Meistr ei wâs? Bugail ei braid? Onid yw yr Arglwydd in dywedyd: Nith adawaf, ac ni'th wrthodaf. Oni ŵyr ein Tâd nefol fod in rhaid i ni wrth y pethau hyn? Oni addawodd Duw ar ei air, na bid arnom ddiffyg pethau bydol? oni ddywedodd efe y rhoddid y pethau hyn i ni in ychwaneg? Paham gan hynny y llaeswn? Paham y gostyngwn ein pennau in bruddion? Paham na chodwn ein calonnau, a bod in llawen? Duw yw ein Tâd caredig: ein ymgeleddwr beunyddiol: ein cyfaill annwylaf: Efe a'n cynnal ni ar ei draul, ai gôst ei hûn. Nid yw efe in grwgnach am ddim ar a gaffom: Ni thybia efe ddim in rhy dda i ni. Ein caru y mae in gû, ac in annwyl. Ni all oddef ir gwy at chwythu arnom. Ni fin efe i ni ddwyn eisieu dim â fyddo da ar ein llês. Pe bwyttaem aur a llwyau, ninny a'i caem gaaddo. Efe â addawodd in ffyddlon na bid diffyg arnom tra fo'm byw. Byddwn gan hynny lawen, a hyfryd. Oblegid eiddom ni yw'r nefoedd, eiddom ni yw'r ddaiar, eiddom ni yw Duw, eiddom ni yw Christ, eiddom ni yw'r cwbl oll: megis y dywed yr Apostol: Pob peth oll eiddo chwi yw, a chwithau in ⟨p. 134⟩eiddo Christ, a Christ in eiddo Duw. Y by• sy'n curo dwylo ac fell ceiliog in canu ym mhell cyndydd gan ddywedyd. Pob peth oll, eiddo• ni yw: eithr plant Duw â allant ddywedyd, a dywedyd y gwir, pob peth oll eiddom ni yw. Oblegid y mae ganddynt hwy hawl gyfiawn drwy Grist i'r holl greaduriaid. Eu braint hwy sydd •elaeth, a'u rhydddid sy fawr. Rhyddion, ydynt ar y ddaiar, a rhyddion in y nefoedd. A hwynt hwy in unig ydynt ddinasyddion rhyddion or bid. Christ a brynodd iddynt eu rhydd-did: Christ a'u rhyddhaodd, ac am hynny gwir ryddion ydynt. Rhyddion ydynt oddiwrth bechod. rhyddion oddiwrth uffern, a rhyddion oddiwrth dammed gaeth: Heddychol ydynt a Duw, a dynion, ac ag Angelion. Heddychol a hwynt eu hunain, heddychol ar creaduriaid oll. Tywysogion jevaingc ydynt, cyfeillion i Angelion in hanoedd or tŷ pennaf, o waed Brenhîni•• in y nefoedd: Pendefigion o Baradwys ac etifeddion ir goron dragwyddol. Am hynny y gorchymynnodd Duw ir Angelion […] hamddeffyn, a hwythau in gyfryw dywysogion, ac ydynt. Je efe a rods orchymmyn caeth ir holl greaduriaid, ar eu gwa chadw, a gwilied arnynt rhag digwyddo dint niwed. Mor hôff, mor anwyl, mor […]